Friedrich Robert Faehlmann
Friedrich Robert Faehlmann | |
---|---|
Ganwyd | 31 Rhagfyr 1798 Koeru Parish |
Bu farw | 22 Ebrill 1850 o diciâu Tartu |
Dinasyddiaeth | Estonia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, llenor, academydd, ieithegydd |
Cyflogwr |
Roedd Friedrich Robert Faehlmann (neu, gyda'r didolnod, Friedrich Robert Fählmann) (20 Rhagfyr 1798 – 10 Ebrill 1850; Calendr Gregori: 31 Rhagfyr 1798 – 22 Ebrill 1850) yn awdur o Estonia, meddyg, ac ieithegydd a oedd yn weithgar yn Livonia, Ymerodraeth Rwsia. Yr oedd yn un o gyd-sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgiedig Estonia (Almaeneg: Gelehrte Estnische Gesellschaft, Estoneg: Õpetatud Eesti Selts) ym Mhrifysgol Dorpat (Prifysgol Tartu, bellach, Dorpat oedd yr enw Almaeneg ar y ddinas) a'i chadeirydd (1843-1850). Dylid nodi ar y pryd mai Almaeneg oedd prif iaith addysg, statws a gweinyddiaeth yn Estonia.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed i deulu rheolwr Ystâd Ao (Hegeweid yn Almaeneg) yn awr ym Mhlwyf Väike-Maarja, yn sir Järva yng nghanol Estonia. Yn 1825 graddiodd o adran feddygol Prifysgol Dorpat (Prifygsol Tartu bellach). Yn 1827 enillodd radd MD a daeth yn feddyg yn Dorpat (yn awr Tartu). Yn ogystal bu'n darlithio yn yr iaith Estoneg yn y brifysgol yn ystod 1842-1850.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn y 1820au dechreuodd ymddiddori yn niwylliant Estonia ac, yn 1838, daeth yn gyd-sylfaenydd y Learned Estonian Society.
Tynnodd sylw at lên gwerin Estonia, yn arbennig y Kalevipoeg sydd, ers ei farwolaeth, wedi dod yn epig genedlaethol Estonia, diolch i ymdrechion Estoffiliaid arall, Friedrich Reinhold Kreutzwald. Cofnododd hefyd nifer o chwedlau.
Ym 1840 cyhoeddwyd ei stori "Koit ja Hämarik" (Gwawr a Gwyll) am y tro cyntaf.
Rôl Faehlmann yn y Kalevipoeg
[golygu | golygu cod]Weithiau bydd ymchwil hŷn yn rhoi'r argraff mai Faehlmann oedd awdur gwreiddiol yr epig o Estonia, Kalevipoeg.[1] Fodd bynnag, nid yw hyn ond yn gywir i'r graddau bod Faehlmann mewn gwirionedd wedi'i gomisiynu gan Gymdeithas Ddysgedig Estonia i lunio epig ac wedi gwneud rhywfaint o waith paratoi hefyd. Ond pan ar ôl ei farwolaeth yr ymddiriedwyd i Friedrich Reinhold Kreutzwald am barhad y gwaith, daeth i'r amlwg mai byr iawn oedd nodiadau Faehlmann, heb fod yn epig gyfan o bell ffordd.
Mae'r Kalevipoeg a adwaenir heddiw yn amlwg yn waith Kreutzwald. Fodd bynnag, roedd Faehlmann wedi rhoi darlith bwysig ar destun y chwedl, a gafodd ei hargraffu hefyd yn 1846 mewn llyfr hanes a gyhoeddwyd ym Moscow.[2] Mae'r ddarlith hon ar y Kalevipoeg yn un o'r "Urtexte" ar gyfer epig ddiweddarach Kreutzwald. Nid yw'n cael ei gyfrif yn gyffredinol ymhlith yr "wyth myth", ond o ran cynnwys mae'n amlwg yn perthyn i sagenoeuvre Faehlmann.
Bu farw o'r darfodedigaeth yn Dorpat, Tartu.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Traethawd Hir M.D. "Observationes inflammationum occultiorum" (1827)
- "Versuch einer neuen Anordnung der Conjunctionen in der estnischen Sprache" (1842)
- "Ueber die Declination der estnischen Nomina" (1844)
- "Die Ruhrepidemie in Dorpat im Herbst 1846" (1846)
- "Verhandlungen der Gelehrten estnischen Gesellschaft" (1852)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Henno Jänes: Geschichte der estnischen Literatur. Stockholm: Almqvist und Wiksell 1965. 188 S. (Acta Universitatis Stockholmiensis. Stockholm Studies in History of Literature 8) S. 30.
- ↑ Friedrich Kruse: Ur-Geschichte des Esthnischen Volksstammes und der Kaiserlich Russischen Ostseeprovinzen Liv-, Esth- und Curland überhaupt, bis zur Einführung der christlichen Religion. Moskau: Friedrich Severins Verlagsbuchhandlung 1846, S. 175–184.
- Genedigaethau 1798
- Marwolaethau 1850
- Beirdd y 19eg ganrif o Estonia
- Beirdd Estoneg o Estonia
- Ieithegwyr o Estonia
- Llenorion o Ymerodraeth Rwsia
- Meddygon y 19eg ganrif o Estonia
- Meddygon o Ymerodraeth Rwsia
- Pobl fu farw o dwbercwlosis
- Ysgolheigion y 19eg ganrif o Estonia
- Ysgolheigion Almaeneg o Estonia
- Ysgolheigion Lladin o Estonia