Glaswellteg
Gwedd
Cangen o fotaneg sydd yn astudio glaswellt neu weiriau, sef planhigion y teulu Poaceae, yw glastwellteg[1] neu gweireg.[1] Weithiau cynhwysir ffug-weiriau teuluoedd yr hesg (Cyperaceae), y brwyn (Juncaceae), a chynffon y gath (Typhaceae) yn yr wyddor hon. Mae glaswellteg yn bwysig wrth gynnal a chadw glaswelltiroedd gwyllt a phorfeydd, tyfu cnydau megis reis, indrawn, cansen siwgr, a gwenith, garddwriaeth, cynhyrchu tyweirch, ecoleg, a chadwraeth.
Mae'n debyg taw'r Almaenwr Johann Scheuchzer a sefydlodd y maes pan gyhoeddodd ei draethawd ar dacsonomeg gweiriau, Agrostographiae Helveticae Prodromus, ym 1708.[2]
Ymhlith y botanegwyr sydd wedi cyfrannu at faes glaswellteg mae:
- Jean Bosser
- Aimée Antoinette Camus
- Mary Agnes Chase
- Eduard Hackel
- Charles Edward Hubbard
- A. S. Hitchcock
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, "agrostology".
- ↑ (Saesneg) Agrostology. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2017.