Grŵp Rhyngwladol dros Hawliau Lleiafrifol
Enghraifft o'r canlynol | carfan bwyso |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1960 |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.minorityrights.org/ |
Sefydliad hawliau dynol rhyngwladol yw Grŵp Rhyngwladol dros Hawliau Lleiafrifol (Minority Rights Group International, neu MRG) a sefydlwyd gyda'r nod o weithio i sicrhau hawliau i leiafrifoedd ethnig, cenedlaethol, crefyddol, ieithyddol a phobl frodorol ledled y byd. Mae eu pencadlys yn Llundain, ac mae ganddynt swyddfeydd eraill yn Budapest a Kampala. Mae gan MRG Gyngor llywodraethu rhyngwladol sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn yn ogystal a statws ymgynghorol gyda Chyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig (ECOSOC) a statws sylwedydd gyda Chomisiwn Affrica ar Hawliau Dynol a Hawliau Pobl.[1]
Fe'i sefydlwyd y ym 1969 gan grŵp o weithredwyr ac academyddion er mwyn “amddiffyn hawliau lleiafrifoedd i gydfodoli â mwyafrifoedd, trwy astudiaeth wrthrychol ac amlygiad cyhoeddus rhyngwladol cyson o droseddau hawliau sylfaenol fel y’u diffinnir gan Siarter y Cenhedloedd Unedig” [2]
Ei gyfarwyddwr cyntaf oedd David Astor, golygydd a pherchennog papur newydd The Observer ar y pryd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ minorityrights.org; adalwyd 14 Rhagfyr 2022
- ↑ Datganiad o nodau sylfaenol y Grŵp Rhyngwladol dros Hawliau Lleiafrifol
- Barsilai, Gad. Cymunedau a'r Gyfraith: Gwleidyddiaeth a Diwylliannau Hunaniaethau Cyfreithiol (Ann Arbor: Gwasg Prifysgol Michigan, 2003).ISBN 978-0-472-03079-8