Neidio i'r cynnwys

Gwrachyddiaeth yng Nghymru fodern gynnar

Oddi ar Wicipedia
Gwrachyddiaeth yng Nghymru fodern gynnar
Enghraifft o'r canlynolagweddau o ardal ddaearyddol Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata

Yn wahanol i Loegr a'r Alban, ychydig iawn o gyhuddiadau o wrachyddiaeth, neu swyngyfaredd, erlid dewiniaid neu wrachod a gafwyd yng Nghymru yn y cyfnod modern cynnar (yr 16eg i ganol y 18fed ganrif). Cafodd y mwyafrif o'r cyhuddedig eu rhyddfarnu: pum person yn unig a gafodd eu dienyddio yn ystod y cyfnod hwn.[1]

Cyd-destun hanesyddol

[golygu | golygu cod]

Roedd gwrachyddiaeth yng Nghymru fodern gynnar yn gyffredin, ac roedd credoau a defodau ofergoelus yn rhan o fywyd bob dydd. Roedd cyhuddiadau, treialon, a dienyddiadau yn llawer llai eu hamlder o gymharu â Lloegr, yr Alban, a gwledydd eraill Ewrop, gyda thri deg saith erlyniad yn unig yng Nghymru yn ystod y cyfnod o amser hwn.[1] Yn ystod yr un cyfnod o amser, credir y dienyddiwyd 500 person yn Lloegr wedi eu cyhuddo o wrachyddiaeth.[2] Ymhellach, gwrthodwyd neu ryddfarnwyd y mwyafrif o'r achosion yng Nghymru, ac roedd y gosb fel arfer yn llai llym o gymharu â llefydd eraill, lle'r oedd arteithio yn gyffredin. Yn ôl yr hanesydd Richard Suggett, mae ffynonellau Seisnig cyfoes yn nodi bod y gred mewn mathau gwahanol o swyngyfaredd ar waith yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a allai fod yn faleisus neu'n llesiannol.[1] Er na chredid bod gwrachyddiaeth bob tro'n ddifrïol yn y cyfnodau cynnar, newidiwyd agweddau tuag at wrachyddiaeth a swyngyfaredd yn ystod yr Oesoedd Canol Diweddar, pan gysylltwyd nhw â'r diafol, ac yn y pen draw, daeth yn anghyfreithlon i ymarfer unrhyw fath o wrachyddiaeth neu swyngyfaredd.[3]

Deddfau gwrachyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gyda Deddfau Uno 1536 i 1543, daeth Cymru o dan reolaeth Lloegr, ond oherwydd diffyg canlyniadau cyfreithiol a chosbau a dienyddiadau llym Cymru, yn ogystal â'r parch a ddangoswyd tuag at Lys y Sesiwn Fawr droseddol yn lle llysoedd yr eglwys, roedd yn arferol i Gymru barhau â dilyn deddfau cyffredin hŷn Cymru, sef Cyfraith Hywel yn lle cyfraith Loegr, pan roedd pwyslais ar ddigolledu dioddefwyr yn lle cosbi'r cyhuddedig er mwyn sicrhau canlyniad buddiol rhwng y partïon ac i gadw cytgord yn y gymuned.[4]


Deddfau gwrachyddiaeth Prydain a Lloegr yn ystod y cyfnod modern cynnar

[golygu | golygu cod]

Ym 1542, o dan Harri VIII, deddfwyd Senedd Lloegr Deddf Gwrachyddiaeth 1541, a gafodd ei diddymu gan Edward VI. Yn ôl y ddeddf hon, gellid defnyddio'r gosb eithaf oherwydd ymarfer gwrachyddiaeth.[5]

Ym 1563, o dan Elisabeth I, daeth Deddf Gwrachyddiaeth 1541 yn ôl fel Deddf Gwrachyddiaeth 1563, ond defnyddiwyd y gosb eithaf pan achoswyd niwed yn unig gan wrachyddiaeth.[5]

Ym 1604, o dan Iago I, diddymwyd Deddf 1563, a daeth Deddf Gwrachyddiaeth 1603 i rym. Ynddi roedd wahanol fathau o gosbau er troseddau gwahanol nad oeddent mor niweidiol â throseddau eraill.[6] Yn ôl y ddeddf hon, am y tramgwydd cyntaf, dylid carcharu'r peron euog a dylid aros yn y rhigod (mecanwaith sy'n debyg i'r cyffion neu'r cyffion traed), ond y gosb eithaf am yr ail dramgwydd.[4] Wedi'r Deddfau 1563 a 1604, nid yr eglwys a oedd yn gyfrifol am helfâu dewiniaid, neu helfâu gwrachod, ond y llysoedd.[2]

Ym 1735, o dan Siôr II, diddymwyd Deddf Gwrachyddiaeth 1735 bob deddf flaenorol a'i wneud yn drosedd i ddweud bod rhywun arall yn ymarfer gwrachyddiaeth neu'n meddu ar bwerau swyngyfareddol. Yn ogystal, daeth y ddeddf hon â'r helfâu dewiniaid, neu helfâu gwrachod, a'r gosb eithaf er ymarfer gwrachyddiaeth i ben. Y gosb fwyaf yn hytrach oedd blwyddyn o garchar.[7]

Treialon, cyhuddiadau, ac erlyniadau

[golygu | golygu cod]
Map
Lleoliadau'r achosion gwrachyddiaeth yng ngogledd Cymru

Yn ystod yr 16eg a'r 17eg ganrif, dim ond tri deg saith erlyniad gwrachyddiaeth oedd yng Nghymru.[1] Nifer bychan yw, o gymharu â gweddill Gorllewin Ewrop, lle'r oedd cyfanswm o 200,000 erlyniad rhwng rhwng canol y 15fed a chanol y 18fed ganrif.[8] O'r tri deg saith person a ddrwgdybiwyd, dim ond wyth a gafwyd yn euog, a dim ond pump a gafodd y gosb eithaf, gyda'r gweddill yn cael eu rhyddfarnu fwy na thebyg.[1] Digwyddodd bob un o'r achosion hyn, yn ôl Kelsea Rees, hanesydd ym Mhrifysgol Gobaith Lerpwl, yng ngogledd Cymru,[9] gyda llawer ohonynt yn agos iawn i ogledd ffin Cymru a Lloegr.

Dienyddiadau

[golygu | golygu cod]

Ym 1594, Gwen ferch Ellis (42) o Landyrnog, Sir Ddinbych, oedd y gyntaf i'w dienyddio yn wrach yng Nghymru. Er iddo fod yn adnabyddus am iacháu, ymhlith y cyhuddiadau oedd iddi ymarfer rheibiaeth, gwrachyddiaeth faleisus. Tarddiad y cyhuddiadau oedd swynogl a ysgrifennwyd tuag yn ôl a'i chanfod yn enghraifft o reibio. Wedi'r treial, dedfrydwyd i farwolaeth.[10]

Ym 1622, yng Nghaernarfon, cafwyd triawd o wrachod o'r un teulu yn euog a'u dienyddio yn syth. Yn y triawd oedd Lowri ferch Evan, Agnes ferch Evan, a Rhydderch ap Evan, a oedd yn iwmon (gwas is ei safle nag ysgwïer). Rheswm y treial oedd oherwydd marwolaeth gwraig dyn y bonedd lleol, Margaret Hughes, a'u bod yn rheibio eu merch, Mary. Ar y pryd, roedd Margaret yn sâl yn barod oherwydd strôc.[9]

Ym 1655, ym Miwmares, Ynys Môn, cyhuddwyd Margaret ferch Richard o wrachyddiaeth. Gwraig weddw oedd hi a chredid mai swynyddes ydoedd. Credid hefyd iddi achosi marwolaeth dynes arall, Gwen Meredith, a oedd yn sâl cyn iddi farw. Cafwyd Margaret yn euog yn unol â Deddf Gwrachyddiaeth 1604 a dedfrydwyd hi i farwolaeth drwy grogi.[9]

Rhyddfarnau

[golygu | golygu cod]

Ym 1655, yn Llanasa, Sir y Fflint, cynhaliwyd treial arall. Cyhuddwyd Dorothy Griffith o reibio morwr teithiol, William Griffith. Honnai William iddo weld Dorothy ger ei fron gyda goleuadau o'i chwmpas, a'i bod yn ei arwain at dŷ cwrw. Honnodd iddo edrych dros y môr a'i fod ar dân, a daeth yn ofn oherwydd y profiad. Ymhellach, syrthiodd i mewn i berlewyg neu golli ymwybyddiaeth ond iddo wella yn hwyrach. Carcharwyd Dorothy am saith wythnos ond llwyddodd i gasglu tystlofnodion oddi wrth y bobl leol, lle dywedont nad oeddent yn credu bod Dorothy yn ymarfer gwrachyddiaeth. Y si oedd bod perthynas y ddau deulu yn denau a bod William yn sâl. Er i Dorothy gael ei dwyn gerbron y llys, diddymwyd yr achos a chafodd hi mo'i dedfrydu.[3] Mae achos Dorothy Griffith yn un ymhlith tri deg dau achos arall a gafodd eu rhyddfarnu.

Cyhuddiadau eraill a'u canlyniadau

[golygu | golygu cod]

Dyma restr o bobl a gyhuddwyd iddynt fod yn wrachod neu swynwyr a'r hyn a ddigwyddodd iddynt yng Nghymru.

Enw Dyddiad Lle Manylion Canlyniad
Tangwlyst ferch Glyn 1560au Tyddewi Cyhuddwyd gan Esgob Tyddewi o gyd-fyw â dyn, ac felly creodd hi ffigwr o'r Esgob a'i felltithio. Cwympodd yr Esgob yn sâl ond daeth y digwyddiad i ddim. Dyma'r unig enghraifft yng Nghymru o boped yn cael ei ddefnyddio yn y ffasiwn ffordd. Roedd Tanglwyst yn lwcus, gan fod Deddf Gwrachyddiaeth 1563 ddaeth i rym ychydig yn hwyrach yn ei hoes.[11] Anhysbys
Hugh Bryghan 1568 Morgannwg Erlynwyd Hugh am swyngyfaredd yn hytrach na gwrachyddiaeth. Yn ei ôl ef, daroganwr, neu goelddyn, yr oedd (ond efallai y byddai wedi galw ei hun yn ddyn hysbys - ac iddo ddefnyddio crisialau er mwyn canfod nwyddau coll drwy alw ar bwerau'r drindod. Gwadodd Hugh iddo weithio â dyfyn-ysbrydion, gan honni yn hwyrach mai lledrith oedd y cyfan oll.[12] Dirwywyd a rhyddhawyd
Gwen ferch Ellis 1594 Llandyrnog, Dinbych Daroganwraig, neu goelddynes, a greodd elïoedd iachaol er mwyn iacháu anifeiliaid, pobl sâl, a phlant. Cyhuddwyd iddi ysgrifennu swynogl tuag yn ôl - at ddibenion drwg, felly - a ganfuwyd yn nhŷ Thomas Mostyn, un o fonheddwyr a thirfeddiannwr mwyaf pwysig yn y cyfnod hwnnw.[13] Canfuwyd hi'n euog a chrogwyd hi cyn diwedd y flwyddyn yn Sgŵar Tref Dinbych.
Gruffydd ap Dafydd ap Siôn ac eraill 1579 Trefaldwyn Daeth Dafydd Lloyd ag achos yn erbyn Gruffydd ap Dafydd ap Siôn ac eraill i sylw Syr John Throckmorton ac iddo honni eu bod yn defnyddio ysbrydion drwg, swyngyfareddion, a gwrachyddiaeth er mwyn swyno afal a phowdr a wnaeth ef roi i ferch Lloyd, Margaret ferch Dafydd, er mwyn ei gorfodi rhedeg i ffwrdd â Siôn ap Gryffudd. Ar ôl bwyta'r afal, aeth â hi yn erbyn ei hewyllys i Sir Ddinbych gan y diffynyddion lle treision nhw hi.[14] Nid yw cofnodion Llys Trefaldwyn y Sesiwn Fawr yn nodi'r canlyniadau.
Marsli Ferch Thomas 1584 Sir y Fflint Cyhuddwyd Marsli a'i phlant o reibio William Lewis a'i feistr.[15] Anhysbys
Katherine Lewis/Bowen 1607 Gumfreston Cyhuddwyd hi o reibio gyr o foch ac achosi colli nwyddau ac eiddo drwy berfformio "celfyddydau cythreulig."[13] Anhysbys
Agnes Griffiths 1616/1618 Maenordeifi Cyhuddwyd o wrachyddiaeth ffetis a phricio "rhywbeth" yn ei llaw chwith a llosgi pum cannwyll ar ben ei bysedd.[16] Anhysbys
Rhydderch ap Evan, Lowri ferch Evan, ac Agnes ferch Evan 1622 Llannor Cyhuddwyd o wrachyddiaeth ffelonaidd. Honnwyd mai nhw oedd wrth wraidd marwolaeth a rheibio Marged Huws o Lanbedrog. Plediont yn ddieuog ond cafwyd nhw'n euog.[17] Crogwyd.
Harry Lloyd 1632 Caernarfon Cyhuddwyd o ddefnyddio "celfyddydau anghyfreithlon a drwg," gan gynnwys darllen ffortiwn, llawddewiniaeth, a "bod yn gyfarwydd ag ysbrydion drwg gyda'r nos." Cydnabu Harry iddo gwrdd â'r tylwyth teg ac ysbrydion eraill bob nos Fawrth ac Iau er mwyn gwneud i'w gymdogion yn gyfoeth.[18] Anhysbys
Henry John James 1637/1638 Diserth Cyhuddwyd o fod yn swynwr a chonsuriwr a'i fod yn ymarfer gwrachyddiaeth. Y prif gyhuddiad oedd iddo reibio dau ych a oedd yn perthyn i John Wynn Edwards.[19] Ymbilwyd arno ofyn i Dduw fendithio'r ychen.
Marged ferch Rhisiart 1655 Biwmares Cyhuddwyd o reibio Gwen Meredith ar ôl iddi gwympo'n sâl a marw ddiwedd mis Rhagfyr. Plediodd Marged yn ddieuog ond cafwyd hi'n euog.[20] Crogwyd ym Miwmares
Gwenllïan David 1656 Anhysbys Gwerthwraig gaws a gyhuddwyd o wrachyddiaeth a dwyn.[17] Anhysbys
Anne Ellis 1657 Llannerch Banna Cyhuddwyd o wrachyddiaeth, da a drwg, yn erbyn da byw a phlant.[17] Rhyddhawyd hi o fai
Dorothy Griffith 1656 Llanasa Cyhuddwyd o wrachyddiaeth a rheibio William Griffith. Plediodd hi ei dieuogrwydd.[17] [21] Rhyddhawyd hi o fai
Charles Hughes 1690 Llanasa Cyhuddwyd o anafu gwartheg ei landlord, ond ni soniwyd am ba ffurf.[22] Rhyddhawyd hi o fai
Olivia "Olly" Powell 1693 Loveston Cyhuddwyd o ddinistrio tas o wair, clafychu hychod, trawsffurfio i mewn i, ac yn rhedeg fel, ysgyfarnog, a lladd dofednod. Pan wrthododd dyn roi glo iddo, cafodd boen yn ei goesau.[23] Cynhaliwyd ei hachos yng Nghastell Hwlffordd.[24] Anhysbys
Dorcas Heddin 1699 Hwlffordd Yn wreiddiol o Gaergrawnt, cyhuddwyd Dorcas o reibio morwyr yn sâl am iddynt beidio â rhoi digon o ddognau iddi. Cynhaliwyd ei hachos yng Nghastell Hwlffordd.[24] Anhysbys

Diddordeb newydd

[golygu | golygu cod]

Yn 2024, cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau ar-lein dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Siân Melangell Dafydd ar themâu'r pum person a ddienyddiwyd dan ddyfarniad o fod yn "wrachod." Mae'r sgyrsiau i'w gweld ar Y Porth, gwefan ddysgu'r Coleg. Mae'r sgyrsiau'n ymwneud â hanes y pump ac yn estyn i drafodaethau ar wrachyddiaeth a "swynddewinwyr" yng Nghymru.[25]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Suggett, Richard (2000). "Witchcraft Dynamics in Early Modern Wales". Women and gender in early modern Wales. Michael Roberts, Simone Clarke. Cardiff: University of Wales Press. tt. 75–103. ISBN 0-7083-1580-1. OCLC 46952260.
  2. 2.0 2.1 "Witchcraft". www.parliament.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mawrth 2021.
  3. 3.0 3.1 Williams, J. Gwynn (1973–1974). "Witchcraft in Seventeenth-Century Flintshire (Part One)". Journal of the Flintshire Historical Society 26: 16–33. https://www.library.wales/discover/digital-gallery/archives/witchcraft-court-of-great-sessions-rec/witchcraft-in-17th-century-flintshire.
  4. 4.0 4.1 Parkin, Sally (2006). "Witchcraft, women's honour and customary law in early modern Wales". Social History 31 (3): 295–318. doi:10.1080/03071020600746636. JSTOR 4287362. http://www.jstor.org/stable/4287362.
  5. 5.0 5.1 Podvia, Mark W. "Witchcraft Laws and Trials: A Brief Timeline" (PDF). dcba-pa.org. Cyrchwyd 2 Mawrth 2021.
  6. Rosen, Barbara (1991). Witchcraft in England 1558–1618. Massachusetts: University of Massachusetts Press. ISBN 978-0870237539.
  7. Hutton, Ronald (1999). The Triumph of the Moon. Oxford: Oxford University Press. tt. 107. ISBN 978-0-19-820744-3.
  8. "The history of witches in Britain". Historic UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Mawrth 2021.
  9. 9.0 9.1 9.2 Hopkins, Matthew (28 Hydref 2020). "The Welsh Witch Trials". Caernarfon Herald. Cyrchwyd 28 Chwefror 2021.
  10. "Witches in the dock: 10 of Britain's most infamous witch trials". HistoryExtra (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Chwefror 2021.
  11. Carradice, Phil (25 Mawrth 2010). "Welsh witches". bbc.co.uk (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  12. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 18-19. ISBN 9781999946715.
  13. 13.0 13.1 Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 20. ISBN 9781999946715.
  14. Parkin, S (2002). "Defining the Figure of the Welsh Witch, 1536-1736" (pdf). rune.une.edu.au. Prifysgol New England. t. 98-99. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  15. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 28. ISBN 9781999946715.
  16. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 22, 27. ISBN 9781999946715.
  17. 17.0 17.1 17.2 17.3 Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 21. ISBN 9781999946715.
  18. Clark, S; Morgan, P T J (1976). "Religion and Magic in Elizabethan Wales: Robert Holland’s Dialogue on Witchcraft". Journal of Ecclesiastical History 27: 43. https://archive.org/details/sim_journal-of-ecclesiastical-history_1976-01_27_1/page/43.
  19. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 30. ISBN 9781999946715.
  20. Hughes, Ian (25 Hydref 2020). "The incredible true stories behind the five women executed for 'witchcraft' in North Wales". dailypost.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Chwefror 2024.
  21. "The Trial of Dorothy Griffith". www.mythslegendsodditiesnorth-east-wales.co.uk. Curious Clwyd - The beauty, the history, the folklore of North East Wales. 2002. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  22. "Witchcraft (Court of Great Sessions Rec)". library.wales. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2020. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  23. Suggett, R (2018). Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales. Llanelwy: Atramentous Press. t. 21, 22. ISBN 9781999946715.
  24. 24.0 24.1 Hanson, J (2014). "Witchcraft in Pembrokeshire". westerntelegraph.co.uk. Western Telegraph. Cyrchwyd 2 Awst 2024.
  25. "Coel Gwrach". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2024.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]