Hefin Jones
Hefin Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1961 Pencader |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ecolegydd |
Cyflogwr |
|
Ymchwilydd a darlithydd o Gymro ym maes ecoleg ydy Dr. Hefin Jones (ganwyd Mehefin 1961).
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Thomas Hefin Jones ym Mhencader, yn fab i Mrs. Rachel Jones Fronlwyd a'r diweddar Evan Henry Jones. Mae'n wyr i'r emynydd a'r bardd gwlad Thomas Jones (1880-1963), awdur Manion y Mynydd.
Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Pencader, ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Graddiodd (BSc) mewn Swoleg o Goleg y Brenin, Prifysgol Llundain; enillodd hefyd Ddiploma AKC gyda Chlod o'r Adran Ddiwinyddol a doethuriaeth (1986) o Goleg Imperial, Prifysgol Llundain.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gweithiodd am dair mlynedd i'r Cyngor Ymchwil Amaeth yn Wellsbourne, Swydd Warwick. Dychwelodd i'r Coleg Imperial, yn Gymrawd Ymchwil ac Arweinydd Prosiect Rhyngwladol ar effeithiau ecolegol newid hinsawdd; mewn erthygl bell gyrhaeddol yn y cyfnodolyn Science ef ai'i dim oedd y cyntaf i ddarogan effaith cynnydd mewn CO2 ar ffrwythlonder ac amrywiaeth bywyd y pridd. Roedd yn rhan o'r Tim Golygyddol a gyhoeddodd y llyfr cyfeiriadol Soil Ecology and Ecosystem Services yn 2012.
Yn 2000 symudodd i Brifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn Wyddonydd Ymgynhorol Canolfan Ecoleg Prifysgol Kyoto, Siapan, Gwyddonydd Ymgynghorol Datblygiad Canolfan Amgylcheddol Montpellier, Ffrainc ac yn Aelod Rhyngwladol Panel Rheoli'r Phytotron, Prifysgol Duke, yn yr Unol Daleithiau. Mae'n awdur ar dros 300 o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn gyfredol, mae'n Olygydd y cyfnodolyn Global Change Biology, y cyfnodolyn rhyngwladol mwyaf blaenllaw ym maes newid hinsawdd, Agricultural and Forest Entomology, a'r gyfres lyfrau Ecological Reviews. Ef hefyd yw Cadeirydd Bwrdd Golygyddol y cyfnodolyn Gwerddon.
Am naw mlynedd bu'n un o uwch-swyddogion y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig ac yn aelod o Fwrdd Sefydliad Gwyddonol Ewrop. Bu'n Gadeirydd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol, yn Ysgrifennydd Adran Ieuenctid Annibynwyr y Byd ac yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg (2004-2005). Gyda'r Annibynwyr bu'n Ysgrifennydd Adran Dinasyddiaeth Gristnogol yr Undeb, yn Gadeirydd y Bwrdd Hyfforddi ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Staffio. Fe'i anrhydeddwyd ag Urdd Derwydd er Anrhydedd yng Ngorsedd y Beirdd yn 2007; fe'i adnabyddir fel Hefin Pencader. Ef hefyd yw Deon cyntaf Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.[1]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyflwynwyd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cymerwyd y wybodaeth o Y Garthen, Rhifyn Medi 2007; diweddarwyd 2012
- ↑ Hefin Jones yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod 2018. Eisteddfod Genedlaethol (21 Ebrill 2018). Adalwyd ar 25 Ebrill 2018.