Neidio i'r cynnwys

John Cleland

Oddi ar Wicipedia
John Cleland
Ganwyd24 Medi 1709 Edit this on Wikidata
Kingston upon Thames, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1789 Edit this on Wikidata
Dinas Westminster, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, nofelydd, dramodydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
TadWilliam Cleland Edit this on Wikidata

Nofelydd o Loegr oedd John Cleland (bedyddwyd 24 Medi 170923 Ionawr 1789), a aned yn Llundain. Ei waith mwyaf adnabyddus o lawer yw'r nofel erotig Fanny Hill: or, the Memoirs of a Woman of Pleasure (1750).

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Roedd William Cleland, tad John, yn gyfaill i'r bardd a llenor Alexander Pope. Cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster, Llundain, hyd 1723. Ymunodd am gyfnod gyda'r gwasanaeth diplomyddol ac roedd yn gonswl yn Smyrna, Twrci, cyn mynd i weithio i Gwmni India'r Dwyrain. Treuliodd gyfnod wedyn yn teithio yn ôl ei fympwy o gwmpas cyfandir Ewrop a chyrhaeddodd yn ôl i Lundain yn 1740.

Gorffenodd ysgrifennu Fanny Hill pan fu'n garcharor am fethdaliaeth yng Ngharchar y Fflyd, Llundain. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys Memoirs of a Coxcomb (1751) a The Surprises of Love (1764). Ysgrifennodd yn ogystal sawl drama, nas cyhoeddwyd, a nifer o gerddi.

Ar ddiwedd ei oes, troes at ieithyddiaeth a cheisiodd brofi mai'r Gelteg oedd yr iaith Ewropeaidd gysefin. Bu farw mewn tlodi yn Westminster yn 1789.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]