Lewis Morris
Lewis Morris | |
---|---|
Ffugenw | Llywelyn Ddu o Fôn |
Ganwyd | 2 Mawrth 1701 (yn y Calendr Iwliaidd) Llanfihangel Tre'r Beirdd |
Bu farw | 11 Ebrill 1765 Penbryn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mapiwr, hynafiaethydd, syrfewr tir, bardd, rhwymwr llyfrau, argraffydd |
Tad | Morris ap Rhisiart |
Mam | Margaret Morris |
Plant | William Morris |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Lewis Morris (gwahaniaethu)
Llenor a hynafiaethydd o Ynys Môn a chwareodd ran flaenllaw yn nadeni llenyddol y ddeunawfed ganrif oedd Lewis Morris (2 Mawrth 1701 – 11 Ebrill 1765). Ei enw barddol oedd Llywelyn Ddu o Fôn. Roedd Lewis yr hynaf o bedwar brawd. Gyda'i frodyr dawnus Richard a William a beirdd a hynafiaethwyr eraill fel Goronwy Owen, Ieuan Fardd a Huw Huws, roedd Lewis yn ffigwr canolog yn y mudiad llenyddol y cyfeirir ati fel Cylch y Morrisiaid.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Lewis Morris yn y Tyddyn Melys, ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd a'i fagu ar fferm Pentre-eiriannell, ger Penrhosllugwy, Môn. Roedd ei dad Richard Morys yn gowper a saer ac yn hanfod o deulu Bulkeley, ond doedd y teulu ddim yn gefnog a phur caled oedd blynyddoedd cynnar Lewis. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond llwyddodd i ddysgu crefft syrfeio. Yn 1729 roedd yn swyddog dollfa yng Nghaergybi yn casglu'r dreth ar halen. Yn y flwyddyn honno priododd ei wraig gyntaf Elisabeth Griffith, o Dŷ Wydryn ger Caergybi. Cafodd ei gyflogi i wneud arolwg o dir ystad Bodorgan gan Owen Meyrick yn 1734. O 1737 hyd 1744 ymgymrodd â'r dasg anferth o fapio a syrfeio arfordir Cymru, gwaith a gyhoeddywd fel siart a chyfrol o fapau yn 1748.
Yn dirfesurydd symudodd i Geredigion yn 1742 a chafodd y gwaith o ofalu am hawliau'r Goron yn ardaloedd y gweithfeydd plwm yn ardal Pumlumon yn 1744. O 1746 hyd 1757 bu'n byw yng Ngalltfadog, ger Capel Dewi. Priododd ei ail wraig Ann Lloyd o Benbryn, Goginan, yn 1749. Bu farw ym Mhenbryn, yn 1765.
Llenor a hynafiaethydd
[golygu | golygu cod]Ymddiddorai Lewis Morris yn fawr yn llenyddiaeth Gymraeg y gorffennol. Fel y Morysiaid eraill, gwelai ddiffyg amlwg yn safonau llenyddol ei ddydd a cheisiai newid hynny trwy ymledu gwybodaeth am fawrion y gorffennol fel Dafydd ap Gwilym. Roedd yn gweld yr angen yn ogystal am lenyddiaeth gyfoes ddifyr o safon dda gan fod cynifer o bobl yn troi at lenyddiaeth Saesneg am hynny, ac yn 1735 cyhoeddodd Tlysau yr Hen Oesoedd i'r perwyl hwnnw. Ysgrifennodd nifer fawr o gerddi hwylus, llythyrau a darnau rhyddiaith dychanol yn null llenyddiaeth fwrlesg a ffansïol y ganrif. Cyhoeddwyd rhai ohonynt yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd yn 1763 (sy'n cynnwys hefyd cerddi gan Goronwy Owen ac eraill o Gylch y Morrisiaid). Ond arosodd swmp ei waith llenyddol a hynafiaethol heb ei gyhoeddi yn ei oes, yn cynnwys cyfrol ar hynafiaethau Môn (Celtic Remains), geiriadur, llythyrau llenyddol a cherddi.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwaith Lewis Morris
[golygu | golygu cod]- Tlysau yr Hen Oesoedd (1735)
- Nifer o'r cerddi yn y gyfrol Diddanwch Teuluaidd (1763)
- Celtic Remains, gol. Daniel Sylvan Evans (1878)
- Nifer o'r llythyrau yn y cyfrolau The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris (dwy gyfrol, 1907, 1909) a Additional Letters of the Morrises of Anglesey (dwy gyfrol, 1947, 1949), gol. gan J. H. Davies
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Tecwyn Jones, Y Llew a'i deulu (1982)
- Alun R. Jones, Lewis Morris (Cyfres Dawn Dweud, 2004)
- Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans (1924)
- Hugh Owen (gol.), The Life and Works of Lewis Morris (1951)