Lona
Gwedd
Clawr fersiwn 2024 gan Melin Bapur | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | T. Gwynn Jones |
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab (1923) Melin Bapur (2024) |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Nofelau Cymraeg |
Argaeledd | Mewn print |
Nofel gan T. Gwynn Jones yw Lona. Fe'i cafodd ei chyhoeddi fel cyfrol yn 1923 (dan yr enw "G.", ond roedd wedi'i hysgrifennu yn 1908 a'i chyhoeddi yn ystod y flwyddyn honno yn y papur newyddion Papur Pawb, yr oedd T. Gwynn Jones yn olygydd arni ar y pryd.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Nofel serch yw Lona am weinidog ifanc, Merfyn Owen, sy'n symud i ardal pentref y Minfor ac yn syrthio mewn cariad gyda Lona O'Neill, merch i Wyddel. Mae Lona'n gymeriad rhamantaidd, chwedl rhai beirniaid, i fod i gynrychioli Cymru ei hun ar ffurf hanfodol, diniwed.[1]. Lona oedd ffefryn Gwynn o blith ei nofelau ei hun[1], ac roedd drama W.B. Yeats Cathlleen Ni Houlihan, a gyhoeddwyd tua'r un pryd, yn gryn ddylanwad arni, er mai stori wreiddiol yw Lona yn hytrach nac addasiad.[1]