Neidio i'r cynnwys

Lorasepam

Oddi ar Wicipedia
Lorasepam
Lorazepam
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathbenzodiazepine drug Edit this on Wikidata
Màs320.011933 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₅h₁₀cl₂n₂o₂ edit this on wikidata
Enw WHOLorazepam edit this on wikidata
Clefydau i'w trinAnhwylder niwrotig, schizophreniform disorder, anhunedd, anhwylder gorbryder, epilepsi ffocol, cyflwr epileptig, chwydu, catatonia, camddefnyddio sylweddau, sleep-wake disorder, gordyndra edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d edit this on wikidata
GwneuthurwrPfizer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae lorasepam, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Ativan ymysg eraill, yn feddyginiaeth[1]bensodiasepin[2][3]. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₅H₁₀Cl₂N₂O₂. Mae lorasepam yn gynhwysyn actif yn Ativan.

Defnydd

[golygu | golygu cod]

Fe'i defnyddir i drin anhwylderau pryder, trafferth cysgu, atafaeliadau gweithredol, gan gynnwys cyflwr epileptig, ar gyfer llawdriniaeth i ymyrryd â chreu cof, i lonyddu'r sawl sy'n cael eu hawyru'n fecanyddol, symptomau diddyfnu alcohol ac i atal chwydu a achosir gan gemotherapi[2][3]. Er ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnwrf difrifol, fel arfer mae'n well defnyddion midazolam. Fe'i defnyddir hefyd, ynghyd â thriniaethau eraill, ar gyfer syndrom coronaidd acíwt oherwydd defnydd cocên. Gellir ei weini trwy'r genau neu fel chwistrelliad i mewn i gyhyr neu wythïen. Pan gaiff ei roi trwy bigiad mae effeithiau yn cychwyn rhwng un a thri deg munud ac mae'r effeithiau'n para am hyd at ddiwrnod[2].

Sgil effeithiau

[golygu | golygu cod]

Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys gwendid, cysgadrwydd, pwysedd gwaed isel, ac anawsterau anadlu. Pan roddir yn fewnwythiennol, dylai'r claf gael ei fonitro'n agos. Ymhlith y rheini sy'n dioddef o iselder, efallai y bydd mwy o berygl o hunanladdiad. Gyda defnydd hirdymor efallai y bydd angen dosau mwy am yr un effaith. Gall dibyniaeth gorfforol a dibyniaeth seicolegol ddigwydd hefyd. Os caiff ei atal yn sydyn ar ôl defnydd hir dymor gall y claf dioddef o syndrom symptomau diddyfnu bensodiasepin[2].Yn aml, mae pobl hŷn yn datblygu effeithiau andwyol[2][4]. Yn y grŵp oedran hwn, mae lorazepam yn gysylltiedig â chwympiadau a thoriadau clun[5]. Oherwydd y pryderon hyn, dim ond hyd at bythefnos i bedair wythnos y mae defnydd lorazepam yn cael ei argymell[6].

Mae Lorazepam ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd[7], y meddyginiaethau pwysicaf sydd eu hangen mewn system iechyd sylfaenol. [11] Mae ar gael fel meddyginiaeth generig.

Defnydd meddygol

[golygu | golygu cod]

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • anhwylder niwrotig
  • anhunedd
  • anhwylder gorbryder
  • epilepsi ffocol
  • cyflwr epileptig
  • chwydu
  • catatonia
  • cam-drin sylweddau
  • gordyndra
  • Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Lorasepam, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Orfidal®
  • O-Chloroxazepam
  • O-Chlorooxazepam
  • N-Methyllorazepam
  • Methyllorazepam
  • Ativan®
  • Ativan
  • (±)-Lorazepam
  • Lormetazepam
  • Cyfeiriadau

    [golygu | golygu cod]
    1. Pubchem. "Lorasepam". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Lorazepam". drugs.com. American Society of Health-System Pharmacists. June 29, 2016. Cyrchwyd 15 July 2016.
    3. 3.0 3.1 "Lorazepam: MedlinePlus Drug Information". medlineplus.gov. 10/01/2010. Cyrchwyd 16 July 2016. Check date values in: |date= (help)
    4. Riss J, Cloyd J, Gates J, Collins S (2008). "Benzodiazepines in epilepsy: pharmacology and pharmacokinetics". Acta Neurologica Scandinavica 118 (2): 69–86. doi:10.1111/j.1600-0404.2008.01004.x. PMID 18384456.
    5. Mets MA, Volkerts ER, Olivier B, Verster JC (2010). "Effect of hypnotic drugs on body balance and standing steadiness". Sleep Medicine Reviews 14 (4): 259–267. doi:10.1016/j.smrv.2009.10.008. PMID 20171127.
    6. "Ativan (lorazepam) Tablets Rx only" (PDF). USA: Food and Drug Administration. March 2007. In general, benzodiazepines should be prescribed for short periods only (e.g. 2–4 weeks). Extension of the treatment period should not take place without reevaluation of the need for continued therapy. Continuous long-term use of product is not recommended
    7. "WHO Model List of EssentialMedicines" (PDF). World Health Organization. October 2013. Cyrchwyd 22 April 2014.


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!