Louisa M. Spooner
Louisa M. Spooner | |
---|---|
Ganwyd | 1820 Maentwrog |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1886 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofelydd |
Tad | James Spooner |
Nofelydd o Gymru a ysgrifennai yn Saesneg oedd Louisa Matilda Spooner, ffugenw LMS (1820 – 5 Rhagfyr 1886).[1][2][3][4] Cafodd ei geni ym Maentwrog. Roedd hi'n ferch i'r peiriannydd rheilffordd James Spooner. Bu farw ym Mhortmadog, heb briodi.
Ysgrifennodd dair nofel:
- Gladys of Harlech; an Historical Romance (1858)
- Country Landlords (1860)
- The Welsh Heiress: A Novel (1868)
Canolbwyntiodd yn ei nofelau yn bennaf ar bynciau'n gysylltiedig â Chymru ac o safbwynt Cymreig. Yn Gladys of Harlech, defnyddiodd Spooner gefndir Rhyfeloedd y Rhosynnau i drafod Cymreictod yn ei pherthynas â choron Lloegr.[5] Yn Country Landlords, bu’n trafod perchnogaeth tir a gweriniaetholdeb yng nghyd-destun y Risorgimento yn yr Eidal yn ystod 19eg ganrif, tra bod The Welsh Heiress yn ymwneud ag effaith alcoholiaeth ar gymunedau ffermio.[6][7] Mae ei holl nofelau wedi’u gosod yn ei sir enedigol, Sir Feirionnydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Evans, Cleveland Kent (9 Hydref 2018). "Evans: From Welsh roots, Gladys has worked its way through the grapevine". omaha.com (yn Saesneg). Omaha World Herald. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Author: Louisa Matilda Spooner". www.victorianresearch.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023.
- ↑ "L.M. Spooner Books & Audiobooks". Everand (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023.
- ↑ Singer, Rita (2017). "Gladys of Harlech and the Wars of the Roses". Porth Ymchwil Aberystwyth (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2023.
- ↑ Singer, Rita (2015). Lindfield, Peter; Margrave, Christie. eds. "Liberating Britain from Foreign Bondage: A Welsh Revision of the Wars of the Roses in L. M. Spooner’s Gladys of Harlech; or, The Sacrifice (1858)". Rule Britannia?: 143–158. https://research.aber.ac.uk/cy/publications/liberating-britain-from-foreign-bondage-a-welsh-revision-of-the-w-2.
- ↑ Singer, Rita (2016-12-20). "Adapting the Risorgimento: Ideas of Liberal Nationhood in L. M. Spooner's Country Landlords (1860)". Women's Writing 24 (4): 466–481. doi:10.1080/09699082.2016.1268342. ISSN 0969-9082. http://www.scopus.com/inward/record.url?scp=85006886578&partnerID=8YFLogxK.
- ↑ Singer, Rita (2022) (yn en), Re-inventing the Gwerin: Anglo-Welsh identities in fiction and non-fiction, 1847-1914, Deutsche Nationalbibliothek, https://portal.dnb.de/opac.htm?method=simpleSearch&cqlMode=true&query=idn%3D1264863306, adalwyd 16 Chwefror