Môr-wennol fach
Môr-wennol fach Sterna albifrons | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Laridae |
Genws: | Sternula[*] |
Rhywogaeth: | Sternula albifrons |
Enw deuenwol | |
Sternula albifrons | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol fach (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna albifrons; yr enw Saesneg arno yw Little tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. albifrons, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ar arfordir Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Fel y rhan fwyaf o'r môr-wenoliaid, maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, ac yn cyrraedd cyn belled a De Affrica ac Awstralia.
Mae'r fôr-wennol yn aderyn gymharol fechan, 21–25 cm o hyd a 41–47 cm ar draws yr adenydd.
Is-rywogaethau
[golygu | golygu cod]Ceir tair is-rywogaeth, S. a. albifrons yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia, S. a. guineae yng ngorllewin a chanolbarth Affrica, a S. a. sinensis yn nwyrain Asia a gogledd a dwyrain Awstralia.
Cymru
[golygu | golygu cod]Ar un adeg roedd y fôr-wennol fechan yn aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru yn yr haf, ond erbyn hyn dim ond mewn un lle mae'n nythu yng Nghymru, sef Gronant yn y gogledd-ddwyrain.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r fôr-wennol fach yn perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cors-wennol Ddu | Chlidonias niger | |
Gwylan Gefnddu Fawr | Larus marinus | |
Gwylan Gefnddu Leiaf | Larus fuscus | |
Gwylan Goesddu | Rissa tridactyla | |
Gwylan y Gogledd | Larus hyperboreus | |
Gwylan y Gweunydd | Larus canus | |
Gwylan y Penwaig | Larus argentatus | |
Môr-wennol bigddu | Thalasseus sandvicensis | |
Môr-wennol bigfelen | Thalasseus bergii | |
Môr-wennol fawr | Thalasseus maximus | |
Môr-wennol ffrwynog | Onychoprion anaethetus | |
Môr-wennol fraith | Onychoprion fuscatus | |
Môr-wennol gribog fach | Thalasseus bengalensis | |
Sgimiwr Affrica | Rynchops flavirostris | |
Sternula nereis | Sternula nereis |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.