Orinda
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Robert Thomas Jenkins |
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab |
Dyddiad cyhoeddi | 1943 |
Tudalennau | 68 |
Lleoliad cyhoeddi | Caerdydd |
Nofel hanes fer gan y llenor a hanesydd Cymreig R. T. Jenkins a gyhoeddwyd yn 1943 yw Orinda. Cymru yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr yw lleoliad y nofel, ac mae yn dilyn hanes "Orinda", sef y bardd Katherine Philips ("Y Ddigymar Orinda", 1631-64) a'i gŵr Syr James trwy lygaid y cymeriad dychmygol y Parchedig Richard Aubrey.
Lleolir y nofel yn ardal Aberteifi a'r cylch. Er mai ffuglen ydyw, mae'r nofel yn seiliedig ar wir hanes y brydyddes a gwleidyddiaeth y cyfnod yng Nghymru a Lloegr, ffrwyth ymchwil manwl gan yr hanesydd.
Manylion cyhoeddi
[golygu | golygu cod]- R. T. Jenkins, Orinda (Hughes a'i Fab, Caerdydd, 1943).