Palesteiniaid
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig, Poblogaeth, ethnonational group |
---|---|
Math | pobl |
Label brodorol | فلسطينيون |
Poblogaeth | 14,300,000 |
Crefydd | Islam, cristnogaeth |
Rhan o | Arabiaid |
Yn cynnwys | Palestinians in Jordan, Palestinians in Syria, Palestinians in Lebanon, Palestinian refugee, Present absentee, Palestinian diaspora, Arab citizens of Israel |
Enw brodorol | فلسطينيون |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig yn y Dwyrain Canol yw'r Palesteiniaid (Arabeg: الشعب الفلسطيني, ash-sha`b al-filasTīni). Ei mamwlad yw Palesteina. Mae'r term Palesteiniaid sy'n cyfeirio at drigolion sy'n siarad Arabeg ac sy'n tarddu o Balesteina neu a symudodd yno ar ôl 1917. Pobol heb wlad sofran, sy'n ymgyrchu drwy'r Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd dros hawliau sylfaenol a thros greu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynnol.
Mae cyfanswm eu poblogaeth drwy'r byd rhwng 10 ac 11 miliwn. Mae eu hanner yn byw ym Mhalesteina; mae'r rhelyw wedi eu gwasgaru drwy wledydd eraill, yn aml heb ddinasyddiaeth swyddogol.[1]
Mwslemiaid Sunni yw trwch y boblogaeth, er bod llawer ohonynt yn Gristnogion ac yn ddilynwyr ambell grefydd arall erbyn heddiw. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd y dechreuwyd ddefnyddio'r term 'Palesteiniaid' i olygu'r Arabiaid hyn.[2]
Cânt eu cynrychioli o flaen gwledydd eraill y byd, yn bennaf, gan y PLO sef Mudiad Rhyddid Palesteina.[3][4] Yn 1921 cyhoeddodd Cynghrair Syria-Palesteina yr awydd a'r alwad am annibyniaeth. Yn yr Iorddonen mae tair miliwn o'r Palesteiniaid yn byw ac mae nifer sylweddol yn Llain Gaza, Y Lan Orllewinol ac Israel; mae'r gweddill (y pum miliwn arall) yn ffoaduriad mewn gwahanol wledydd, e.e. Libanus a Syria, gan nad oes ganddynt wlad sofranaidd.
Dros y blynyddoedd cafwyd cryn wrthdaro rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid; cafwyd Intifada Cyntaf Palesteina rhwng 1987 ac 1991 ac yna Ail Intifada'r Palesteiniaid rhwng 2000 a 2005. Cafwyd hefyd gwrthdaro llai a mwy penodol megis ymosodiad byddin Israel ar Balesteiniaid Llain Gaza o'r awyr.
Rhai Palesteiniaid enwog
[golygu | golygu cod]- Yasser Arafat, gwleidydd
- George Habash, gwleidydd
- Diana Karazon, cantores
- Edward Saïd, awdur
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Reflections on the Palestinian Diaspora in Europe gan Abbas Shiblak: The Palestinian Diaspora in Europe: Challenges of Dual Identity, Institute of Jerusalem Studies, 2005. PDF Archifwyd 2008-09-14 yn y Peiriant Wayback
- ↑ britannica.com "Palestine" 2007-08-09
- ↑ "imeu.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2008-08-11.
- ↑ britannica.com