Neidio i'r cynnwys

Ralph Ellison

Oddi ar Wicipedia
Ralph Ellison
Ralph Ellison ym 1961.
Ganwyd1 Mawrth 1914 Edit this on Wikidata
Dinas Oklahoma Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1994 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Frederick A. Douglass High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, awdur ysgrifau, nofelydd, rhyddieithwr, critig, ysgolhaig llenyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amInvisible Man, Juneteenth, Three Days Before the Shooting..., Shadow and Act Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadErnest Hemingway Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Cenedlaethol y Llyfr, Medal Langston Hughes, Commandeur des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata

Llenor o'r Unol Daleithiau oedd Ralph Waldo Ellison (1 Mawrth 191316 Ebrill 1994) sydd yn nodedig am ei nofel Invisible Man (1952), un o'r gweithiau pwysicaf yn llenyddiaeth yr Americanwyr Affricanaidd.

Ganed ef i deulu croenddu o'r dosbarth gweithiol yn Ninas Oklahoma, Oklahoma, Unol Daleithiau America. Credai am y rhan fwyaf o'i oes taw 1914 oedd blwyddyn ei eni, ond mae cofnod o'r cyfrifiad cenedlaethol yn profi iddo gael ei eni ym 1913.[1] Dysgodd i ganu'r trwmped, ac astudiodd gerddoriaeth yn Sefydliad Normal a Diwydiannol Tuskegee (bellach Prifysgol Tuskegee) yn Alabama am dair blynedd cyn symud i Ddinas Efrog Newydd ym 1936. Yno, fe ddaeth yn gyfeillgar â Richard Wright, a anogodd iddo geisio lenydda. Ymddiddorai Ellison yn gryf mewn darllen ac ysgrifennu, a phenderfynodd i ganlyn gyrfa lenyddol yn hytrach nag ennill ei damaid fel cerddor. Dechreuodd gyfrannu straeon byrion, adolygiadau, ac ysgrifau i gyfnodolion ym 1937. Gweithiodd i'r Prosiect Llenorion Ffederal (FWP), un o raglenni'r Fargen Newydd, o 1938 i 1942, a gwasanaethodd yn rheolwr golygyddol The Negro Quarterly ym 1941.[2] Ni chafodd ei alw i'r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond ymunodd â Llynges Fasnachol yr Unol Daleithiau ym 1943 a gwasanaethodd yn weinydd a chogydd ar sawl llong.

Cyhoeddwyd ei gampwaith, Invisible Man, ym 1952, a dyna'r unig nofel ganddo a gyhoeddwyd yn ystod ei oes. Archwilia'r stori hon brofiadau Americanwr Affricanaidd dienw yn Harlem sydd yn ymlafnio yn erbyn hiliaeth ac anweledigrwydd cymdeithasol, a'i frwydr i ddeall ac hawlio'i hunaniaeth. Derbyniodd glod gan feirniaid a darllenwyr, ac enillodd y Wobr Lyfr Genedlaethol am Ffuglen ym 1953. Fodd bynnag, cafodd ei gondemnio gan ambell awdur croenddu am ganolbwyntio ar arddull a chrefft ei waith yn hytrach na pholemeg wleidyddol a dadleuon dros newid cymdeithasol.

Cyhoeddodd Ellison ddwy gyfrol arall yn ystod ei oes, y casgliadau o ysgrifau Shadow and Act (1964) a Going to the Territory (1986). Darlithiodd yn fynych ar bynciau diwylliannol yr Americanwyr Affricanaidd, gan gynnwys llên gwerin, ac ysgrifennu creadigol, ac addysgodd mewn sawl coleg a phrifysgol ar draws yr Unol Daleithiau. Bu farw Ralph Ellison yn Efrog Newydd yn 81 oed, o ganser y pancreas.[3] Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd casgliad o'i straeon byrion, Flying Home, and Other Stories (1996), y nofelau anorffenedig Juneteenth (1999) a Three Days Before the Shooting... (2010), a detholiadau o'i lythyrau ac ysgrifau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Arnold Rampersad, Ralph Ellison: A Biography (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 2007), tt. 5–6. ISBN 978-0375408274.
  2. (Saesneg) Ralph Ellison. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2023.
  3. (Saesneg) Richard D. Lyons, "Ralph Ellison, Author of 'Invisible Man,' Is Dead at 80", The New York Times (17 Ebrill 1994). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Mehefin 2023.