Rebecca Romero
Rebecca Romero | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ionawr 1980 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr trac, seiclwr cystadleuol, rhwyfwr |
Taldra | 180 centimetr |
Pwysau | 73 cilogram |
Gwobr/au | MBE |
Gwefan | http://www.rebeccaromero.co.uk/ |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Seiclwraig trac a chyn rhwyfwr o Loegr ydy Rebecca Romero (ganwyd 24 Ionawr 1980, Twickenham, Llundain Fwyaf),[1] a enillodd fedal arian yn rhwyfo quadruple sculls Gemau Olympaidd 2004 yn Athen. Y flwyddyn ganlynol roedd hi'n aelod o dîm Prydain a enillodd Pencampwriaethau'r Byd quadruple sculls yn Gifu, Japan.
Yn 2006, penderfynodd Romero ymddeol o'r byd rhwyfo, yn rhannol oherwydd problemau gyda'i chefn, a dechreuodd seiclo gyda'r bwriad o ennill ail fedal Olympaidd mewn chwaraeon gwahanol.
Yn Rhagfyr 2006, enillodd fedal arian yng nghymal Moscow, Cwpan y Byd Trac UCI, ei ras seiclo rhyngwladol gyntaf, gan golli allan ar yr aur i'w chyd Brydeinwraig, Wendy Houvenhagel. Cystadlodd Romero a Houvenhagel erbyn ei gilydd unwaith eto yn y rownd derfynol yng nghymal Manceinion yn Ebrill 2007.[2]
Enillodd fedal ym Mhencampwriaethau seiclo'r Byd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2007 gydag arian yn y Pursuit.[3] Fe aeth cam ymhellach ym Mehncampwriaethau'r Byd 2008, gan ennill y fedal aur, a medal aur ychwanegol fel rhan o dîm pursuit merched gan osod record newydd y byd yn y broses mewn amser o 3:22.415.[4]
Mae Rebecca yn byw yn High Wycombe, Swydd Buckingham.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Rhwyfo
[golygu | golygu cod]- Gemau Olympaidd
- 2004 – Silver, Quadruple Sculls (gyda Frances Houghton, Debbie Flood & Alison Mowbray)
- Pencampwriaethau Rhwyfo'r Byd
- 2005 – 1af, Quadruple Sculls (gyda Katherine Grainger, Frances Houghton & Sarah Winkless)
- 2003 – 4ydd, Double Sculls
- 2002 – 5ed, Quadruple Sculls
- 2001 – 5ed, Quadruple Sculls
- Pencampwriaethau'r Byd Odan 23
- 2000 – 1af, 2-
- 1999 – 4ydd, 1x
Seiclo
[golygu | golygu cod]- 2007
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain
- 2il Pursuit, Cymal Moscow, Cwpan y Byd Trac UCI
- 2il Pursuit, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac UCI
- 2il Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Pursuit Tîm (gyda Joanna Rowsell a Wendy Houvenhagel), Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Proffil ar wefan swyddogol Gemau Olympaidd Prydain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-31. Cyrchwyd 2007-10-09.
- ↑ Pendleton sets new British record BBC 24 Chwefror 2007
- ↑ Pursuit quartet and Hoy take gold BBC 30 Mawrth 2007
- ↑ World Track Cycling: Rebecca Romero record, Brendan Gallagher 27 Mawrth 2008[dolen farw]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol
- Proffil ar wefan Archifwyd 2007-10-10 yn y Peiriant Wayback British Cycling
- Dyddiadur Fideo Romero ar gyfer y Telegraph[dolen farw] Mawrth 2008