Stepan Bandera
Stepan Bandera | |
---|---|
Ffotograff o Stepan Bandera, rhywbryd cyn 1934. | |
Ganwyd | 1 Ionawr 1909 Staryi Uhryniv |
Bu farw | 15 Hydref 1959 München |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl, Awstria-Hwngari, di-wlad |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, terfysgwr |
Plaid Wleidyddol | Organization of Ukrainian Nationalists, Organization of Ukrainian Nationalists (Bandera movement) |
Tad | Andriy Bandera |
Mam | Myroslava Bandera |
Priod | Jarosława Bandera |
Plant | Andrii Bandera |
Gwobr/au | Urdd y Wladwriaeth (Iwcrain) |
llofnod | |
Cenedlaetholwr o'r Wcráin oedd Stepan Bandera (1 Ionawr 1909 – 15 Hydref 1959).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed ef ym mhentref Uhryniv Staryi ar gyrion Stanyslaviv (bellach Ivano-Frankivsk, Wcráin) yn Nheyrnas Galisia a Lodomeria, Awstria-Hwngari, yn fab i offeiriad o Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, daeth bro Bandera dan reolaeth Gweriniaeth Gwlad Pwyl. Mynychodd y gymansiwm yn Stryi o 1919 i 1927, ac ym 1922, yn 13 oed, ymaelododd â'r gymdeithas sgowtio Plast. Astudiodd agronomeg yn Ysgol Bolytechnig Uwch Lviv o 1928 i 1932. Ymunodd â pharamilwyr y Sefydliad Milwrol Wcreinaidd (UVO), ac ym 1928 fe'i penodwyd i adrannau cudd-wybodaeth a phropaganda y mudiad hwnnw. Ym 1929 ymunodd hefyd â Sefydliad y Cenedlaetholwyr Wcreinaidd (OUN), a daeth yn aelod o Adran Weithredol Diriogaethol Gorllewin Wcráin yr OUN ym 1931.[1]
Gweithredu yn yr 1930au
[golygu | golygu cod]Yng nghynhadledd yr OUN ym Merlin ym Mehefin 1933, dyrchafwyd Bandera yn bennaeth ar yr OUN yng Ngorllewin Wcráin (rhan o'r wlad oedd o dan reolaeth Gwlad Pwyl ac nid yr Undeb Sofietaidd nes wedi'r Ail Ryfel Byd.
Yn y cyfnod hwn, cynlluniodd ac arweiniodd ymgyrch ymhlith myfyrwyr Wcreinaidd yn erbyn Pwyleiddio yn ardal Lviv. Gorchmynnodd Bandera i Mykola Lemyk lofruddio Alexei Mailov, conswl yr Undeb Sofietaidd yn Lviv, yn Hydref 1933 mewn ymateb i'r newyn a achoswyd yn fwriadol yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd (GSS) Wcráin. Yn unol â phenderfyniad gan y gynhadledd ym Merlin, cynllwyniodd Bandera hefyd i lofruddio'r Gweinidog Cartref, Bronisław Pieracki, un o wleidyddion blaenaf Gwlad Pwyl yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, i dalu'r pwyth yn ôl am y polisi o "heddychu" y boblogaeth Wcreinaidd yn Nwyrain Galisia ym 1930. Wedi saethu Pieracki gan Hryhorij Maciejko ym Mehefin 1934, arestiwyd Bandera a chafodd ei roi ar brawf gyda sawl arweinydd arall o'r OUN yn Warsaw. Fe'i cafwyd yn euog a disgwylid iddo gael ei ddienyddio, ond câi'r dedfryd ei newid i garchar am oes yn sgil ail dreial yn Lviv ym 1936.[1] Carcharwyd Bandera gydag arweinwyr eraill yr OUN yng Ngharchar y Groes Sanctaidd yn Warsaw, a fe'i symudwyd yna i Garchar Wronki yng ngorllewin Gwlad Pwyl.
Yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Yn sgil Cytundeb Molotov–Ribbentrop yn Awst 1939 sgil goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen Natsïaidd ym Medi 1939. Rhyddhawyd Bandera o'r carchar, a dychwelodd i Lviv — a ymgorfforwyd bellach yn rhan o GSS Wcráin yn rhan o'r Undeb Sofietaidd — i gydlynu gweithgareddau'r OUN ar draws Wcráin.
Gwrthododd Bandera a'i ddilynwyr gydnabod etholiad Andrii Melnyk yn bennaeth ar yr OUN, a chafwyd rhwyg rhwng yr OUN-M, dan arweiniad Melnyk, a'r OUN-B (neu'r OUN Chwyldroadol), a sefydlwyd yn Kraków yn Chwefror 1940. Etholwyd Bandera yn arweinydd yr OUN Chwyldroadol yn ffurfiol yn Ebrill 1941, a byddai'r mwyafrif o finteioedd a oedd wedi hen sefydlu yn ymlynu wrth arweinyddiaeth Bandera. Ceisiodd yr OUN-B fanteisio ar gythrwfl yr Ail Ryfel Byd, drwy gydweithio â'r Almaen Natsïaidd, i hawlio gwladwriaeth annibynnnol i'r Wcreiniaid. Ar 30 Mehefin 1941, yn Lviv, datganwyd annibyniaeth Wcráin gan Bandera a'i ddilynwyr a sefydlwyd llywodraeth genedlaethol dan y Prif Weinidog Yaroslav Stetsko.[1] Er iddo addo i ymgynghreirio â'r Almaen, gorchmynnwyd i Bandera ddiddymu'r datganiad annibyniaeth gan y Natsïaid, ac wedi iddo wrthod fe'i arestiwyd gan y Gestapo yng Ngorffennaf 1941. Fe'i carcharwyd yng ngwersyll crynhoi Sachsenhausen am ddwy flynedd.
Wrth i'r Almaen golli tir i'r lluoedd Sofietaidd yn y dwyrain, rhyddhawyd Bandera gan y Natsïaid ar 25 Medi 1944, yn y gobaith y byddai'n gallu trefnu gwrthsafiad Wcreinaidd yn erbyn y Fyddin Goch. Wedi diwedd y rhyfel, ymsefydlodd Bandera gyda'i deulu yng Ngorllewin yr Almaen ac yno parhaodd yn arweinydd yr OUN-B ac yn weithgar mewn mudiadau gwrth-gomiwnyddol. Llofruddiwyd Stepan Bandera gan Bohdan Stashynsky, asiant o'r KGB, ym München ym 1959, yn 50 oed.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Mae enw Bandera yn hynod o ddadleuol yn Wcráin a Gwlad Pwyl.
Fe'i fawrygir gan nifer o Wcreiniaid, yn enwedig yng ngorllewin y wlad, fel gwladgarwr a fu'n brwydro dros annibyniaeth ei genedl, ac yn symbol o genedlaetholdeb Wcreinaidd a gwrthsafiad i ddarostyngiad yr Wcreiniaid yng Ngweriniaeth Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd fel ei gilydd. Yn 2010 gwobrwywyd iddo urdd Arwr Wcráin gan yr Arlywydd Viktor Yushchenko, gwobr a ddiddymwyd yn ddiweddarach ar y sail nad oedd Bandera erioed yn ddinesydd Wcreinaidd. Mae nifer o Wcreiniaid eraill, yn bennaf yn nwyrain a de-ddwyrain y wlad, yn ystyried Bandera yn fradwr i frwydr GSS Wcráin yn erbyn yr Almaen Natsïaid.[2][3] Yng Ngwlad Pwyl, cyhuddir Bandera o fod yn gyfrifol am gyflafanau gan Fyddin y Gwrthryfelwyr Wcreinaidd (UPA) yn erbyn Pwyliaid yn Volyn a Dwyrain Galisia o 1943 i 1945.[4] Er yr oedd Bandera wedi ei garcharu am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw, un o amcanion yr OUN-B oedd i gael gwared â phoblogaethau nad oeddynt yn Wcreiniaid o wladwriaeth Wcreinaidd annibynnol, ac felly câi mudiad Bandera ei feio yn hanesyddol am sbarduno'r glanhau ethnig hyn. Oherwydd ei weithgareddau yn ystod yr Ail Ryfel Byd — cydweithio â'r Natsïaid ac annog "puro" Wcráin rhag Pwyliaid — portreadir Bandera gan rai yn ffasgydd, yn droseddwr rhyfel, yn hilydd gwrth-Bwylaidd ac yn wrth-Semitydd, ac yn derfysgwr hil-leiddiol.[5]
Rhyfel Rwsia ar Wcráin 2022
[golygu | golygu cod]Yn sgil rhyfel Rwsia ar Wcráin yn 2022 gellid dadlau bod newid, neu ailasesiad, wedi bod o waddol Bandera. Gyda Rwsia yn elyn oedd yn bomio a lladd dinasyddion di-euog ar draws dinasoedd Wcráin, collodd peth o bropaganda Sofietaidd a Rwsiaidd yr oedd sefydliadau Putin wedi eu defnyddio ers degawdau, golli eu hawch. Yn ôl Ruslan Martsinkiv, Maer dinas Ivano-Frankivsk, bod ymosodiadau Arlywydd Rwsia wedi uno'r genedl a "bod Wcráin oll yn Bandera nawr".[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 37–38.
- ↑ (Saesneg) "Bandera: Ukraine’s national hero or traitor?", RT (18 Chwefror 2010). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Ebrill 2022.
- ↑ (Saesneg) "15,000 Ukraine nationalists march for divisive Bandera", USA Today (1 Ionawr 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Tachwedd 2018.
- ↑ (Saesneg) Emil Filtenborg a Stefan Weichert, "Controversy as Ukraine mulls giving hero status to alleged war criminals ", Euronews (4 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Ebrill 2022.
- ↑ (Saesneg) Emil Filtenborg, "In Ukraine, Stepan Bandera’s legacy becomes a political football... again", Euronews (26 Mawrth 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mawrth 2022.
- ↑ "A Ukrainian mayor, Russian missiles and the ghost of controversial Second World War nationalist". Gwefan Global News Canada. 11 Mawrth 2022.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- 'Stepan Bandera | Making History' Rhaglen ddogfen ar sianel UATV ar Youtube