Neidio i'r cynnwys

Te yn y Grug

Oddi ar Wicipedia
Te yn y Grug
clawr argraffiad 2009
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurKate Roberts
CyhoeddwrGwasg Gee
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1959 Edit this on Wikidata
ArgaeleddMewn print
ISBN9781904554059
GenreStorïau byrion

Casgliad o storiau byrion gan Kate Roberts (1891–1985) yw Te yn y Grug (1959). Ymhlith cymeriadau'r casgliad y mae Begw bedair oed, Mair, Winni Ffini Hadog a Sgiatan y gath.

Yn y casgliad hwn o storiau byrion mae Kate Roberts yn agor y drws ar ryfeddodau plentyndod yn seiliedig ar ei phrofiad o dyfy i fyny yn ardal Arfon, Gwynedd, ardal Gymraeg dros ben. Dywed hi fod marwolaeth ei brawd yn y rhyfel hefyd yn rhywfaint o ysbrydoliaeth iddi.

Manylion cyhoeddi: Gwasg Gee (1959, 1996). Cyfieithwyd i'r Saesneg gan Seren yn 2002. Mae'r gyfrol ar ei nawfed fersiwn, y nawfed argraffiad ers i’r gyfrol ymddangos am y tro cyntaf ym 1959.

Gwnaed y gyfrol yn ffilm gan gwmni Llun y Felin a chafodd ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf ym 1997. Enw'r ffilm yw Y Mynydd Grug ac chaiff ei hastudio ar gwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg CBAC.

Mae wyth stori yn y casgliad:

  • "Gofid"
  • "Y Pistyll"
  • "Marwolaeth Stori"
  • "Te yn y Grug"
  • "Ymwelydd i De"
  • "Dianc i Lundain"
  • "Diethrio"
  • "Nadolig y Cerdyn"



Llyfrau Kate Roberts
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg


Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.