Tegau Eurfron
Tegau Eurfron | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Cysylltir gyda | Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain |
Tad | Pelinor, brenin Cernyw |
Priod | Caradog Freichfras |
Plant | Cadfarch, Maethlu, Cawrdaf mab Caradog Freichfras, Maenarch ap Caradog |
Santes oedd Tegau Eurfron a gwraig Caradog Freichfras (477 - 540).
I fynaich yr Oesoedd Canol roedd hi'n fwyaf nodedig am dri pheth: ei chlogyn (neu fantell; un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain), ei ffyddlondeb a'i morwyndod. Fe'i disgrifir fel gwraig Caradog yn y Rhamantau Ffrengig, Livre de Carados a'r Le Manteau Mal Taillé, darn byr a ddyddir i ddiwedd 12g.
Mae'r cofnod cyntaf o'r enw 'Tegau' i'w gael yn y 14g, yng ngwaith Goronwy Ddu ap Tudur (1320-70) ac mewn cerdd gan Dafydd ap Gwilym (fl.1340-70). Mae Guto'r Glyn (fl.1440-93) yn cymharu ei noddwraig gyda hi, a'i noddwr i Garadog Freichfras. Dywed fod ei mantell yn cyrraedd y llawr, ond nad oedd mantell merched eraill cyn hired. Tua'r un pryd mynnodd Lewis Glyn Cothi (fl.1447-86) fod ei noddwr o linach Caradog a 'Thegau Eururon' [1] Cyfeiria'r beirdd hyn ati fel symbol o burdod ei morwyndod a'i ffydlondeb i'w gŵr. Cyfeirir ati gyda'r enw 'Eurfron' am y tro cyntaf yn 1576.
Storiau
[golygu | golygu cod]Ymledodd y storiau am Tegau o Gymru, drwy Brydain ac i Ffrainc:
- Ceir storiau amrywiol amdani, ac yn eu plith ceir esboniad sut y cafodd ei henw 'Eurfron'. Ymddangosodd y cyfnod cyntaf o'r chwedl hon yn Livre de Carados, un o'r rhamantau Arthuraidd, Ffrengig.
- Stori arall yw honno am ei mantell a oedd â gwerthoedd cyfrin, ac yn profi a oedd y ferch yn forwyn ai peidio. Cofnodir hon yn Le Manteau Mal Taillé, rhamant o ddiwedd y 12g (gol. Romania, XIV, (1885) tt.343380) ac yn ddiweddarach mewn baled Saesneg o'r enw The Boy and the Mantle (Dogfen Ffolio yr Esgob Percy; gol. J.W.Hales a Frederick J.Furnival, II.301-311). Ceir cysylltiad yn y stori hon â Gwenhwyfar, gwraig y Brenin Arthur. Mewn un cofnod dywedir i Wenhwyfar a merched llys y Brenin wisgo'r fantell, ond nad oedd yn eu ffitio, ac edrychai'n doredig, yn garpiau amdanynt. Pan roddodd Tegau'r wisg amdani - yr un oedd yr hanes, ac edrychai'n hyll amdani. Ond trodd dywedodd iddi gusannu ei chariad, Caradog, cyn ei briodi, ac ar hynny, ffitiodd y fantell amdani fel maneg.Ceir trydydd stori: am gorn yfed sy'n colli gwin dros unrhyw ddyn sydd â gwraig anniwair (hy yn anfoesol, yn chwantu dynion eraill neu'n odinebus).[2]Cyllell gig yw gwrthrych y prawf olaf a nodir, ac fel y storiau uchod, mae'n brawf o ffyddlondeb y person. Dim ond gŵr sydd â gwraig anniwair all ei defnyddio.