Neidio i'r cynnwys

Trefriw

Oddi ar Wicipedia
Trefriw
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth783 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,689.58 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.152°N 3.825°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH779632 Edit this on Wikidata
Cod postLL27 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Trefriw.[1][2] Fe'i leolir ar lan orllewinol Afon Conwy. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 1338, gyda union 50% yn siarad Cymraeg; ond erbyn 2011 roedd y ganran wedi gostwng 5% i 44.8%.

Saif Trefriw tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin o dref Llanrwst a thua 4 milltir i'r de o bentref Dolgarrog. Yn y pentref mae Afon Crafnant yn ymuno ag Afon Conwy ar ôl llifo i lawr o Lyn Crafnant. Rhed ffin Parc Cenedlaethol Eryri trwy'r pentref, gyda'r rhan fwyaf ohono yn y parc. Heblaw bod yn rhywfaint o ganolfan wyliau, mae Trefriw yn adnabyddus am y felin wlân a'r sba, oedd yn cael ei defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig ac a ddaeth yn adnabyddus yn y 18g.

Rhaeadr Trefriw. Ffoto o tua 1890-1900

Tua 6 milltir i'r gogledd o Drefriw ceir caer Rufeinig Canovium (Caerhun). Rhedai'r ffordd Rufeinig Sarn Helen trwy Trefriw, er nad oes olion ohoni i'w gweld yn yr ardal yma.

Dywedir fod gan Llywelyn Fawr lety hela yma yn y 13g; yn ôl John Leland roedd yn sefyll yn 1536, ond does dim i'w weld ohono rwan. Mae lle ar bwys y pentref a elwir 'Y Neuadd' ac yn ôl traddodiad lleol ar y llecyn hwnnw y safai llys Llywelyn. Mae traddodiad iddo adeiladu eglwys wreiddiol Trefriw oherwydd bod ei wraig Siwan yn blino cerdded i eglwys Llanrhychwyn. Maerdref cwmwd Nant Conwy, Cantref Arllechwedd, oedd Trefriw yr adeg hynny.

Yn y 19g roedd llongau gweddol o faint yn medru hwylio i fyny Afon Conwy cyn belled â Threfriw, lle'r oedd cei. Gyrrid nwyddau i lawr yr afon a byddai stemar yn cludo twristaid i'r pentref, ond daeth hyn i ben ddiwedd y 1930au.

Eglwys y Santes Fair

[golygu | golygu cod]
Eglwys y Santes Fair; adeilad Gradd II*

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trefriw (pob oed) (783)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefriw) (342)
  
44.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefriw) (414)
  
52.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Trefriw) (122)
  
33.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu | golygu cod]
Cartref Ieuan Glan Geirionnydd yn Nhrefriw, tua 1875

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Morris Jones, Hanes Trefriw: fel y bu ac fel y mae, disgrifiad cryno o'r ardal a'r trigolion (W. J. Roberts, 1879)
  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]