William Jones, Abergwaun
William Jones, Abergwaun | |
---|---|
Ganwyd | 10 Awst 1834 Brymbo |
Bu farw | 24 Mawrth 1895 Abergwaun |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.
Geinidog gyda'r Bedyddwyr o Gymru oedd y Parchedig William Jones (10 Awst 1834 – 24 Mawrth 1895).[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Jones ym Mrymbo yn blentyn i John Robert Jones (Alltud Glyn Maelor), crydd ac emynydd a Mary ei wraig.[2] Roedd yn frawd i'r bardd gwlad Noah T Jones a'r Parchedig John R Jones, Pontypridd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Jones ei yrfa fel mowldiwr yng ngwaith Haearn Brymbo.[3]
Derbyniwyd Jones yn aelod o eglwys y Bedyddwyr ym Mrymbo ar ddiwedd 1853. Dechreuodd bregethu ym 1855. Aeth i Athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd ym 1858. Ym 1860 cafodd ei ordeinio yn weinidog ar gapel Bedyddwyr Pen-y-fron, Sir y Fflint. Ar gychwyn 1864 derbyniodd alwad oddi wrth yr eglwys ym Margod, Sir Fynwy. Bu'n weinidog ym Margod am bum mlynedd cyn derbyn galwad i wasanaethu yn Hermon, Abergwaun ym 1869. Ym 1883 ymadawodd oddi yno, gan gymryd gofal Capel Cymraeg y Bedyddwyr yn Heol y Castell, Llundain. Ni fu ei arhosiad yn Llundain yn hir. Yn Ionawr 1885, dychwelodd i Hermon, Abergwaun, ac yno y bu am ddeng mlynedd olaf ei oes.[4]
Gwasanaethodd fel Cadeirydd cymanfa Penfro'r Bedyddwyr ym 1878, a llywydd Undeb y Bedyddwyr Cymreig ym 1894.
Roedd Jones yn nodedig am natur athronyddol ei bregethu ac yn arbennig am gyflwyno dylanwad yr athronydd Georg Wilhelm Friedrich Hegel i'w enwad. Roedd syniad Hegel o ddelfrydiaeth yn ddylanwad mawr ar ei weinidogaeth.[5]
Roedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ar destunau fel ‘Prometheus,’ ‘John Bunyan,’ a ‘Charles Dickens.
Golygwyd cyfrol o'i bregethau hyn gan T. T. Jones, Caerdydd: Yr Angel Mawr a'r Llyfr Bychan (Llangollen, 1899), a chyhoeddwyd pigion o'i ddywediadau fel Drychfeddyliau Detholedig (Llundain, 1907).
Teulu
[golygu | golygu cod]Roedd William Jones a Hannah ei wraig yn rhieni i dri mab
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Abergwaun yn 60 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Hermon.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ JONES, WILLIAM (1834 - 1895), Abergwaun, gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur
- ↑ Alltud Glyn Maelor – Y Bywgraffiadur
- ↑ Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad 1851 ar gyfer Wern, Brymbo, Sir Ddinbych. Cyfeirnod HO107/2502, Ffolio 282, Tudalen 24
- ↑ "Marwolaethau - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1895-04-04. Cyrchwyd 2020-02-10.
- ↑ Y Geninen cylchgrawn cenedlaethol - Y Parch William Jones Abergwaen. Cyf. XIV rhif. 4 - Hydref 1896