Beirut
Gwedd
Beirut (Arabeg بيروت , Ffrangeg Beyrouth) yw prifddinas Libanus er 1941. Lleolir Senedd Libanus a sedd llywodraeth y wald yno. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Canoldir ar wastadedd arfordirol i'r gorllewin o Mynydd Libanus.
Hanes
Roedd y ddinas ym meddiant y Tyrciaid am ganrifoedd nes i Ffrainc ei chipio ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan enillodd Libanus ei hannibyniaeth yn 1941 dewisiwyd Beirut yn brifddinas iddi.
Dioddefodd y ddinas ddifrod sylweddol yn ystod y rhyfel cartref (1973-1976) ac eto yn 1982 pan ymosododd byddin Israel arni er mwyn gorfodi'r PLO i ymadael.
Yn 2006 cafodd y ddinas ei tharo nifer o weithiau gan lu awyr Israel gan ladd rhai cannoedd o bobl a dinistrio rhannau o'r ddinas, yn arbennig maerdrefi y de ac ardal y maes awyr.
Enwogion
- Nancy Ajram, cantores Arabeg.