Edward Thomas John
Edward Thomas John | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mawrth 1857, 1857 Pontypridd |
Bu farw | 16 Chwefror 1931, 1931 Caint |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Roedd Edward Thomas John (14 Mawrth 1857 – 16 Chwefror 1931),[1] a adnabyddir hefyd fel E.T. John yn wleidydd radicalaidd o'r Blaid Ryddfrydol Gymreig a ymunodd â'r Blaid Lafur yn ddiweddarach. Roedd yn ymgyrchydd dygn dros Senedd i Gymru cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny gan cynnig mesur ar ymreolaeth yn 1914 yn y misoedd cyn y Rhyfel. Roedd hefyd yn ddiwydiannwr llwyddiannus.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganed ef ym Mhontypridd ar 14 Mawrth 1857, yn fab i John John a Margaret Morgan. Priododd yn 1881 â Margaret Rees, Caerwiga Pendeulwyn, Bro Morgannwg. Bu iddynt dri mab a dwy ferch.[2]
Bwriodd ei gyfnod diwydiannol yn Middlesbrough, yn aelod o gwmni Bolckow, Vaughan, a Williams, gwneuthurwyr haearn - menter a sefydlwyd gan John Vaughan (1799? - 1868), Cymro a fu'n gweithio yn ei ieuenctid fel 'roll-turner' yng ngwaith haearn Clydach ym mhlwy Llanelli yn sir Frycheiniog (ar y pryd, Sir Fynwy bellach), ac a atynodd lawer iawn o Gymry i Middlesbrough ar un cyfnod. Y mae delw ohono yn Middlesbrough.
Prynodd John, a gŵr o'r enw Torbock, y 'Dinsdale Iron-works' yn ddiweddarach; wedyn, ymunodd y rhain â gwaith Bolckow Vaughan yn Linthorpe, i ffurfio'r Linthorpe-Dinsdale Smelting Co..[1]
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Roedd yn Genedlaetholwr Cymreig ac yn Heddychol. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Dwyrain Sir Ddinbych o 1910-18. Ei genedlaetholdeb Cymreig oedd yn flaenllaw yn ei broffil cynnar yn y senedd ac ysgrifennodd nifer o gyhoeddiadau; Wales, its notable Sons and Daughters; St. David's Day Addresses Delivered Before the Cleveland and Durham Welsh National Society, 1905–1910 [1911], Home Rule for Wales; Addresses to "young Wales" [1912], Cymru a'r Gymraeg [1916]; a Wales, its Politics and Economics. Gwnaeth gyfraniadau i gylchgronnau a chyfnodolion Cymreig; y Beirniad, Y Genedl, Wales, a'r Welsh Outlook.[2]
Ym 1914 daeth ei heddychiaeth i'r amlwg wrth iddo wrthwynebu mynediad Prydain i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Ynghyd â nifer o ASau Rhyddfrydol a Llafur heddychlon eraill ymunodd â grŵp pwyso yr Union of Democratic Control ym 1914. Diflannodd ei sedd yn Nwyrain Sir Ddinbych ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918 gan uno i sedd newydd yn Sir Ddinbych. Penderfynodd ymladd y sedd newydd ond o dan liwiau plaid newydd. Roedd wedi ymuno â'r Blaid Lafur a chael eu cefnogaeth ond ni chafodd gymeradwyaeth gan y Llywodraeth Glymblaid a chafodd ei drechu gan Ryddfrydwr a wnaeth;
Etholiad cyffredinol 1918
Nifer y pleidleiswyr 30,448 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | David Sanders Davies | 14,773 | 83.3 | ||
Llafur | Edward Thomas John | 2,958 | 16.7 | ||
Mwyafrif | 11,815 | 66.6 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 58.2 |
Safodd eto fel ymgeisydd Llafur i'r senedd yn Etholiad Cyffredinol 1922 ond y tro hwn ym Mrycheiniog a Maesyfed;
Etholiad cyffredinol 1922
Nifer y pleidleiswyr 38,815 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydwr y Glymblaid | William Albert Jenkins | 20,405 | 67.4 | ||
Llafur | Edward Thomas John | 9,850 | 32.6 | ||
Mwyafrif | 10,555 | 34.8 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 77.9 | ||||
Rhyddfrydwr y Glymblaid yn cadw | Gogwydd |
Ni safodd yn Etholiad Cyffredinol 1923 pan ddychwelwyd Jenkins yn ddiwrthwynebiad, ond safodd yn Etholiad Cyffredinol 1924 gan orffen yn drydydd;
Etholiad cyffredinol 1924
Nifer y pleidleiswyr 39,943 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Unoliaethwr | Walter D'Arcy Hall | 12,834 | 38.4 | ||
Rhyddfrydol | William Albert Jenkins | 10,374 | 31.1 | ||
Llafur | Edward Thomas John | 10,167 | 30.5 | ||
Mwyafrif | 2,460 | 7.3 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | |||||
Unoliaethwr yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Ni safodd i'r senedd eto.[3] Bu'n Llywydd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig, 1916–26, Llywydd y Gyngres Geltaidd, 1918–27 a Llywydd y Gymdeithas Heddwch, 1924–27. Yr oedd yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, Cymdeithas Hanes Gorllewin Cymru a Chymdeithas Hynafiaethol Môn. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Fwrdeistref Middlesbrough.[2]
Senedd i Gymru
[golygu | golygu cod]E.T. John oedd prif ladmerydd yr ymgyrch dros Senedd i Gymru ar ddechrau'r 20g a chyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1914, yn y misoedd cyn cychwyn y Rhyfel Mawr, bu iddo gynnig Mesur dros Senedd i Gymru ger bron Tŷ'r Cyffredin. Cafodd y mesur ddarlleniad ond ni basiwyd y Ddeddf. Yn dilyn y Rhyfel Mawr cyhoeddodd ei waith ymchwil a lladmeru dros ennill Senedd i Gymru ar ffurf erthglau yn y Welsh Outlook rhwng Ionawr 1918 a Mawrth 1919 gan gyfuno rheini wedyn yn un llyfr, a gyhoeddu gan wasg, Wales: its politics and economics : with the text of the government of Wales Bill (1914).[4]
Rhai cyhoeddiadau ar Ymreolaeth i Gymru
[golygu | golygu cod]Roedd ET John yn awdur cyson dros senedd i Gymru gan gwneud gwaith dygn yn tyrchu drwy ffeithiau economaidd a diwydiannol, yn aml lle nad oedd ffeithiau penodol ar gyfer Cymru fel gwlad neu diriogaeth ystadegol. Cyhoeddodd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dyma restr o rai o'i gyhoeddiadau fwyaf nodedig:[5]
- John, E. T. National self-government: how Wales stands to gain by it [1910?]
- John, E. T. Ymreolaeth gyfunol: safle a hawliau Cymru: manteision Senedd Gymreig [1910?]
- John, E. T. Wales and self-government [1910?]
- John, E. T. Senedd Gymreig: ei neges a'i gwaith 1911.
- John, E. T. Cymru a'r Gymraeg [1916]
- John, E. T. Ymreolaeth gyfunol: safle a hawliau Cymru: manteision Senedd Gymreig [1919]
- John, E. T. Wales: its politics and economics: with the text of the Government of Wales Bill 1914 [1919]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "John, Edward Thomas". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 16 Ionawr 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Who Was Who
- ↑ British parliamentary election results 1918–1949, Craig, F. W. S.
- ↑ "Wales: its politics and economics : with the text of the government of Wales Bill (1914) / by Edw. T. John". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 16 Ionawr 2024.
- ↑ "Casgliadau Arbennig ac Archifau Cefndir hanesyddol (cyn-1970)". Gwefan Prifysgol Caerdydd Datganoli. Cyrchwyd 17 Ionawr 2024.