Garndolbenmaen
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.973°N 4.238°W |
Cod OS | SH497441 |
Pentref yng Ngwynedd yw Garndolbenmaen ( ynganiad ). Gorwedd ger yr A487 tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Porthmadog. Y pentrefi agosaf yw Dolbenmaen a Bryncir. Mae'n ran o gymuned Dolbenmaen, sydd â phoblogaeth o 1,300.[1] Y Ffynnon yw papur bro Garndolbenmaen.
Yno hefyd mae stiwdio recordio Blaen y Cae, ble recordwyd albym Pep Le Pew, Un tro yn y Gorllewin a Wyneb Dros Dro, albym Gwyneth Glyn. Mae'r cynhyrchydd a'r cerddor Dyl Mei hefyd yn byw yng Ngarndolbenmaen.
Mae 58 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen,[2] mae nifer yn teithio yno o bentrefi cyfagos megis Pant Glas, Bryncir, Cwm Pennant a Golan. Mae nifer y disgyblion wedi aros yn gyson ers o leiaf ugain mlynedd. Daw tua 60% o'r disgyblion o gartrefi Cymraeg.
Eisoes mae nifer o hen fythynnod yng Ngarndolbenmaen wedi eu troi yn dai haf.
Mae Cynghorwr Sir Gwynedd ar gyfer ward Dolbenmaen, Steve Churchman, o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru[3], yn bostfeisr ac yn rhedeg siop yno.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Peter Jones (Pedr Fardd) (1775-1845), bardd ac emynwr
- Owen Griffith (Giraldus) (1832-1896) Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cymraeg yng Nghymru a'r Unol Daleithiau, awdur a golygydd Y Wawr, papur Cymraeg y Bedyddwyr yn yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Office for National Statistics : Neighbourhood statistics : Census 2001 : Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-22. Cyrchwyd 2009-08-10.
- ↑ Adroddiad Estyn, Ysgol Gynradd Garndolbenmaen (Tachwedd 2015).
- ↑ "Councillor manylion - Stephen W. Churchman". democratiaeth.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2021-06-23.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr