Llanystumdwy
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 1,919 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9222°N 4.2713°W |
Cod SYG | W04000089 |
Cod OS | SH473385 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanystumdwy ( ynganiad ). Saif yn ardal Eifionydd ar yr A497 rhwng Cricieth a Pwllheli, ar lannau Afon Dwyfor. Ystyr yr enw yw "yr eglwys wrth y tro ar Afon Dwy".
Mae'n enwog am ei chysylltiadau â Lloyd George. Treuliodd y 'Dewin Cymreig' ei blentyndod yn y pentref tan oedd yn 15eg oed, yng ngofal ei ewythr Richard Lloyd, crydd wrth ei grefft a gweinidog cynorthwyol yn y capel lleol: Capel Moreia. Cafodd Lloyd George ei gladdu yn Llanystumdwy.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Yn Llanystumdwy ym 1912 roedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru, pan ddychwelodd Lloyd George yma i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith gan alw am bleidleisiau i ferched. Cafodd y merched eu llusgo o'r neuadd yn filain iawn a'u curo. Cafodd un ohonynt ei dillad wedi’u tynnu a bu bron i un arall gael ei thaflu oddi ar pont Afon Dwyfor gerllaw, ac i’r creigiau oddi tano.[3]
Mae'n bentref deniadol lle gwelir nifer o fythynnod a thai sy'n dyddio o'r 17g a'r 18g, wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. Mae pont ddwy fwa sy'n dyddio o'r 17g ar Afon Dwyfawr ar gyrion Llanystumdwy.
Pobl o Lanystumdwy
[golygu | golygu cod]- Owen Gruffydd (c. 1643-1730) - bardd, hynafiaethydd, ac achyddwr, a dreuliodd ei oes yn y plwyf.
- Robert Jones, Rhoslan (1745 - 1829) - ganed awdur Drych yr Amseroedd (1820) ar fferm ger Y Suntur ym mhlwyf Llanystumdwy.
- Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) (1766-1850) - bardd ac emynydd
- Richard Jones (Cymro Gwyllt) (1772-1833) - emynydd.
- David Owen (Dewi Wyn o Eifion) (1784-1841) - bardd.
- Morris Williams (Nicander) - cafodd y bardd ei addysg gynnar yn y pentref.
- David Lloyd George - treuliodd Lloyd George ei blentyndod yn y pentref (1864 - 1880).
- W. S. Jones ("Wil Sam") - dramodydd ac awdur.
Atyniadau
[golygu | golygu cod]Ceir Amgueddfa am fywyd a gwaith Lloyd George yn y pentref. Mae ei fedd, a gynlluniwyd gan y pensaer Clough Williams-Ellis (Portmeirion), ynghyd â'r capel coffa gerllaw, dros yr hen bont ar gyrion y pentref.
Mae Tafarn y Plu yn dafarn Gymreig draddodiadol a adeiladwyd yn 1813 ac sydd prin wedi newid ers hynny.
Addysg
[golygu | golygu cod]Lleolir Ysgol Llanystumdwy yn y pentref. Mae'r ysgol gynradd Gymraeg hon yn rhan o dalgylch Ysgol Eifionydd, Porthmadog.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Plas Hen, Llanystumdwy tua 1885
-
Plas Hen, Llanystumdwy tua 1885
-
Tŷ Newydd, Llanystumdwy
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Winning the vote for women in Wales". llgc.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-14. Cyrchwyd 31 Mawrth 2016.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr