Neidio i'r cynnwys

Iorwerth Beli

Oddi ar Wicipedia
Iorwerth Beli
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Un o'r cynharaf o Feirdd yr Uchelwyr oedd Iorwerth Beli (bl. dechrau'r 14g).[1] Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goroesi ond mae honno'n rhoi darlun o lys Esgob Bangor a'r cystadlu am nawdd yno ar ddechrau'r 14g.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Bardd o Wynedd oedd Iorwerth Beli, naill ai o Arfon neu Fôn. Ni wyddom fawr dim arall amdano.[1]

Mae ei unig gerdd yn awdl sy'n cwyno'n dost am fod Esgob Bangor wedi troi at noddi cerddorion Seisnig iselradd (minstrels) ar draul y beirdd Cymraeg. Mae'n dra thebygol mai Anian Sais (Esgob Bangor o 1309 hyd ei farw yn 1327) oedd yr esgob hwnnw.[2]

Mae'r bardd yn edliw'r esgob am droi ei gefn ar yr etifeddiaeth Gymraeg ac yn ddrych i argyfwng y gyfundrefn farddol yn y degawdau yn dilyn cwymp Llywelyn Ein Llyw Olaf a Dafydd ap Gruffudd. Cyfeiria'n hiraethus at feirdd llys mawr Gwynedd cyn y Goncwest, fel Cynddelw Brydydd Mawr a Dafydd Benfras. Mae ei ddirmyg at y crach-gerddorion Seisnig yn huawdl. Diddorol hefyd i haneswyr llên a llên gwerin Cymru yw'r adran yn y gerdd sy'n sôn am y chwedl am y brenin Maelgwn Gwynedd yn gorfodi'r beirdd a'r cerddorion i nofio dros Afon Menai i brofi eu gallu; y beirdd a enillodd a chawsant ffafr y brenin wedyn ar draul y cerddorion. Dyma un o ddau gyfeiriad at y chwedl hon; ceir y llall mewn cerdd a briodolir i Daliesin ond sy'n perthyn i ran olaf yr Oesoedd Canol.[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995). Rhagymadrodd.
  2. 2.0 2.1 Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).