Julian Cayo-Evans
Julian Cayo-Evans | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1937 Silian |
Bu farw | 28 Mawrth 1995 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithredydd gwleidyddol, magwr ceffylau |
Tad | John Cayo Evans |
Cenedlaetholwr Cymreig oedd William Edward Julian Cayo-Evans (22 Ebrill 1937 – 28 Mawrth 1995), oedd yn fwyaf adnabyddus fel arweinydd Byddin Rhyddid Cymru.
Ganed ef yn Silian ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. Aeth i Goleg Amaethyddol Cirencester; yna yn 1955, galwyd ef i'r Fyddin Brydeinig i wneud Gwasanaeth Cenedlaethol. Bu'n ymladd yn Malaya.
Yn 1963, sefydlodd Fyddin Rhyddid Cymru (Free Wales Army yn Saesneg), gyda Dennis Coslett ac eraill. Am iddo etifeddu stad Glandenys ger Llanbedr Pont Steffan, arweiniodd ymgyrchoedd y Fyddin Rhyddid Cymru o'r fan honno. Yn sgil diddordeb y wasg yn y fyddin newydd hwn, ymddangosodd aelodau'r fyddin ar raglen deledu David Frost.[1]
Yn 1969, cymerwyd ef, Dennis Coslett, Gethin ap Iestyn a thri arall i'r ddalfa ar gyhuddiad o gynllwyn i achosi ffrwydradau. Wedi'r achos llys hwyaf i'w gynnal yng Nghymru hyd hynny, dedfrydwyd ef i bymtheg mis o garchar ar 1 Gorffennaf 1969.
Bu dadlau yn 2000, pan ail-enwodd y bragwyr Tomos Watkin Westy'r Apollo, Caerdydd yn The Cayo Arms er anrhydedd iddo. Gwrthwynebwyd hyn yn gyhoeddus gan nifer o wleidyddion Ceidwadol. Yn 2004 daeth yn rhif 33 yn y bleidlais 100 o Arwyr Cymru.[2]
Ei fywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Cayo Gillianne Mary Davies ym 1965. Cawsant dri o blant ond ysgarodd y ddau ohonynt ym 1975.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Julian Cayo Evans Gwefan y BBC. Adalwyd ar 29-11-2010
- ↑ 100 Arwyr Cymru Archifwyd 2020-05-30 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 29-11-2010