Mesur Sefydliadau Gwladol (Cymru)
Cafodd Mesur Sefydliadau Gwladol (Cymru) ei gyflwyno i Senedd y Deyrnas Unedig ym 1892 gan Alfred Thomas, AS Dwyrain Morgannwg.
Roedd y mesur, a gefnogwyd gan Thomas Edward Ellis, yn gofyn am Swyddfa Gymreig, Ysgrifennydd Gwladol i Gymru, Prifysgol Genedlaethol Gymreig, Amgueddfa Genedlaethol i Gymru, yn ogystal â Senedd i Gymru.
Cafodd y mesur ei wrthwynebu’n hallt gan Syr Edward James Reed, AS Caerdydd, a David Alfred Thomas, AS Merthyr Tudful, a oedd yn dadlau y byddai'r Mesur yn arwain at y Gymru wledig yn tra-arglwyddiaethu dros Gymru ddiwydiannol y De.
Trechwyd y Mesur.[1] Er y bu'r Mesur yn aflwyddiannus yn ei ddydd, bellach, mae pob un o'i ofynion wedi eu gwireddu i rwy raddau. Mae'r mesur yn cael ei hystyried yn garreg filltir bwysig yn hanes Cenedlaetholdeb Cymreig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hansard 10 Chwefror 1892 NATIONAL INSTITUTIONS (WALES) BILL [1] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Rhagfyr 2014