Philadelphia
Math | dinas Pennsylvania, tref ddinesig, dinas Pennsylvania, consolidated city-county |
---|---|
Poblogaeth | 1,603,797 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Jim Kenney |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00 |
Gefeilldref/i | Mosul, Fflorens, Tel Aviv, Toruń, Tianjin, Incheon, Douala, Nizhniy Novgorod, Abruzzo, Aix-en-Provence, Kobe, Salvador, Frankfurt am Main |
Daearyddiaeth | |
Sir | Philadelphia County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 369.609252 km² |
Uwch y môr | 12 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Delaware |
Yn ffinio gyda | Upper Darby Township, Millbourne, Yeadon, Darby, Colwyn, Darby Township, Folcroft, Tinicum Township, West Deptford Township, National Park, Westville, Gloucester City, Camden, Pennsauken Township, Palmyra, Riverton, Cinnaminson Township, Delran Township, Delanco Township, Bensalem Township, Lower Southampton Township, Lower Moreland Township, Abington Township, Rockledge, Cheltenham Township, Springfield Township, Whitemarsh Township, Lower Merion Township, Haverford Township |
Cyfesurynnau | 39.9528°N 75.1636°W |
Cod post | 19019–19255, 19171, 19172 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Philadelphia |
Pennaeth y Llywodraeth | Jim Kenney |
Sefydlwydwyd gan | William Penn |
- Gweler hefyd Philadelphia (gwahaniaethu).
Dinas fwyaf Pennsylvania a'r chweched mwyaf o ran poblogaeth yn Unol Daleithiau America yw Philadelphia. Mae'n gorwedd yn Philadelphia County, ac yn gwasanaethu fel sedd llywodraeth y swydd honno. Ei enw ar lafar yw "Dinas Brawdgarwch" (Saesneg: "the City of Brotherly Love") (Groeg: Φιλαδέλφεια, philadelphia, "brawdgarwch," o'r gair philos "cariad" ac adelphos "brawd").
Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o 1.4 million. Mae Philadelphia yn un o ganolfannau masnach, addysg, a diwylliant pwysicaf yr Unol Daleithiau. Yn 2006 amcangyfrifwyd fod gan ardal ddinesig Philadelphia boblogaeth o 5.8 miliwn, y bumed fwyaf yn UDA.
Yn y 18g, roedd Philadelphia y ddinas fwyaf poblog yn y wlad[1]. Mae'n debyg iddi fod yr ail fwyaf poblog, ar ôl Llundain, yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Y pryd hynny roedd yn bwysicach na dinasoedd Boston a Dinas Efrog Newydd yn nhermau dylanwad gwleidyddol a chymdeithasol, gyda Benjamin Franklin yn chwarae rhan bwysig yn ei goruchafiaeth. Philadelphia oedd canolbwynt cymdeithasol a daearyddol yr 13 gwladfa Americanaidd gwreiddol. Yno yn anad unlle arall y ganwyd y Chwyldro Americanaidd a arweiniodd at greu'r Unol Daleithiau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Daeth y bobl gyntaf i gyrradd o Ewrop o Swede a'r Iseldiroedd]]yn ystod yr 17g. Cyrhaeddodd William Penn ar 24 Hydref 1682, ac arwyddodd gytundeb efo'r llwyth brodorol. Sefydlwyd addoldy i'r Crynwyr ym 1698. Crewyd y ddinas ar 2 Chwefror 1854 gan uno nifer o anneddiadau bychain.[2]
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae gan Philadelphia nifer o safleoedd hanesyddol sy'n ymwneud â sefydlu'r Unol Daleithiau. Parc Hanesyddol Annibynniaeth Cenedlaethol sy'n ganolbwynt i'r mannau hanesyddol hyn. Y Neuadd Annibyniaeth (yn Saesneg "Independence Hall"), lle arwyddwyd y Datganiad o Annibynniaeth a'r Gloch Rhyddid (yn Saesneg "Liberty Bell") yw atyniadau enwocaf y ddinas. Mae safleoedd hanesyddol eraill yn cynnwys cartrefi Edgar Allan Poe, Betsy Ross, a Thaddeus Kosciuszko, adeiladau'r llywodraeth gwreiddiol, megis Y Banc Cyntaf ac Ail Fanc yr Unol Daleithiau, Ffort Mifflin, a'r Gloria Dei (Old Swedes') Safle Hanesyddol yr Eglwys Genedlaethol.
Mae prif amgueddfeydd gwyddonol Philadelphia'n cynnwys y Franklin Institute, sy'n cynnwys Cofeb Cenedlaethol Benjamin Franklin, yr Academi o Wyddorau Naturiol ac Amgueddfa Archeoleg ac Athropoleg Prifysgol Pennsylvania. Ymysg yr amgueddfeydd hanesyddol, ceir y Ganolfan Cyfansoddiad Cenedlaethol, Amgueddfa Atwater Kent o Hanes Philadelphia, Cymdeithas Hanesyddol Philadelphia, yr Amgueddfa Cenedlaethol am Hanes Iddewig, Amgueddfa Arforol, Amgueddfa Americaniaid Affricanaidd yn Philadelphia, Y Gyfrinfa Fawr Seiri Rhyddion a Dethol Talaith Pennsylvania ac Amgueddfa'r Seiri Rhyddion. Yn Philadelphia y ceir sŵ ac ysbyty cyntaf yr Unol Daleithiau.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Louisa May Alcott
- Isaac Asimov
- James A. Michener
- Frankie Avalon
- Pearl Bailey
- Ethel Barrymore
- John Barrymore
- Lionel Barrymore
- Cindy Birdsong
- Guion Bluford
- Solomon Burke
- Dick Clark
- John Coltrane
- Pete Conrad
- Bill Cosby
- Jim Croce
- Chubby Checker
- Noam Chomsky
- James Darren
- Christopher Ferguson
- Sheila Ferguson
- W. C. Fields
- Eddie Fisher
- Larry Fine
- Benjamin Franklin
- Joe Frazier
- Richard Gere
- Stan Getz
- Solomon R. Guggenheim
- Alexander Haig
- Grace Kelly
- Michael Landon
- Mario Lanza
- Sonny Liston
- David Lynch
- Al Martino
- Margaret Mead
- Teddy Pendergrass
- Paul Robeson
- Todd Rundgren
- Bobby Rydell
- Vic Seixas
- Gene Shay
- The Stylistics
- Taylor Swift
- Tammi Terrell
Cludiant
[golygu | golygu cod]Gwasanaethir y ddinas a maestrefi gan SEPTA, ( Southeastern Pennsylvania Transportation Authority) sydd yn cynnig bysiau, trenau a thramiau ledled yr ardal ac yn estyn heibio ffiniau Pennsylvania i Jersey Newydd a Delaware.[3] Mae Gorsaf reilffordd 30fed Stryd yn un brysur ar Goridor y Gogledd-ddwyrain Amtrack, defnyddir gan drenau Amtrak, SEPTA, a New Jersey Transit.[4][5][6]
Mae gan y ddinas faes awyr rhyngwladol. Côd y maes awyr yw PHL.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan ushistory.org
- ↑ Gwefan ushistory.org
- ↑ Gwefan SEPTA
- ↑ Gwefan SEPTA
- ↑ Gwefan Amtrak
- ↑ "Gwefan NJ Transit". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-18. Cyrchwyd 2016-11-07.
- ↑ Gwefan y maes awyr rhyngwladol